Rhagfyr 2001
- Cyhoeddwyd hysbyseb yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd yn gwahodd cwmnïau i fynegi diddordeb yn y gwaith o reoli'r prosiect. Bydd y cwmni'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau proffesiynol y bydd eu hangen ar y Cynulliad er mwyn sicrhau'r telerau mwyaf manteisiol ag y bo modd ar gyfer penodi'r contractiwr, ac i warchod buddiannau'r Cynulliad yn ystod y cyfnod adeiladu.
Medi 2001
- Cyhoeddwyd hysbyseb yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd yn gwahodd contractwyr i fynegi diddordeb yn y gwaith o gwblhau'r dylunio a'r adeiladu. Mynegwyd diddordeb gan nifer sylweddol o gwmnïau ac iddynt enw da.
Awst 2001
- Caewyd y safle a'i wneud yn ddiogel hyd nes y penodir y contractiwr.
- Codwyd ffens er mwyn cau'r safle, a chafodd y mannau cyhoeddus o amgylch y safle ac Adeilad y Pierhead eu gwneud yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb.
Gorffennaf 2001
- Cwblhawyd y gwaith o guro pyst i'r ddaear. Agorwyd ffordd dros dro o amgylch safle Adeilad y Cynulliad.
- Terfynodd y Cynulliad ei gytundeb â'r penseiri, Partneriaeth Richard Rogers. Ataliwyd y gwaith ar y safle ar ddiwedd y mis yn dilyn penderfyniad y Cynulliad i wahodd cynigion gan ddatblygwyr i gwblhau'r gwaith dylunio ac adeiladu.
Mehefin 2001
Mai 2001
- Dechreuwyd ar y gwaith o guro pyst i'r ddaear.
Ebrill 2001
- Y ffyrdd a'r gwasanaethau yn parhau i gael ei hailgyfeirio.
- Dechreuwyd ar waith cloddio sylweddol er mwyn sefydlu platfform fel bod modd cychwyn ar y gwaith o guro pyst i'r ddaear ym mis Mai 2001.
Mawrth 2001
- Ar Ddydd Gwyl Dewi, cynhaliwyd seremoni arbennig i dorri'r dywarchen gyntaf. Gweler y Datganiad i'r Wasg am ragor o wybodaeth.
- Cwblhaodd y Contractiwr y gwaith o baratoi'r safle ac o sefydlu swyddfeydd ar gyfer y prosiect.
Chwefror 2001
- Dechreuwyd paratoi'r safle, gan gynnwys ailgyfeirio'r ffyrdd a'r gwasanaethau.
Ionawr 2001
- Cafodd dyluniad y cynllun ei gymeradwyo yn Ionawr 2001 a dechreuwyd ar y gwaith dylunio manwl.