Senedd yn 15

Cyhoeddwyd 22/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2021   |   Amser darllen munudau

An electronic design image of the Senedd from the waterfront at Cardiff Bay

Mae adeilad y Senedd yn dathlu ei bymthegfed pen-blwydd ar 1 Mawrth 2021, felly beth am ein helpu i nodi'r achlysur hwn trwy ein tagio yn eich lluniau o'r adeilad ar unrhyw un o'n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol? 

 

Facebook 

Twitter 

Instagram 


Efallai eich bod wedi gweld adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ar leoliad, neu fel cefndir rhaglen newyddion ar y teledu’n unig.

A ydych chi erioed wedi meddwl, tybed beth yw’r rheswm dros ei ddyluniad? Pam fod cymaint o wydr? Yn bwysicach fyth, beth sy'n digwydd y tu mewn i’r adeilad?

 

Y Senedd adeilad

 

Yn dilyn llwyddiant y refferendwm ar ddatganoli ym 1997, roedd angen cartref i Senedd Cymru.

 

Llinell amser Prosiect y Senedd

 

1998-2001

Cafodd y penderfyniad i leoli'r Senedd ar ei safle ym Mae Caerdydd ei gymryd gan y Gwir Anrhydeddus Ron Davies AS pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Ebrill 1998. Ar ôl cyhoeddi’r lleoliad, prynwyd y tir ar brydles o 150 mlynedd am ffi fechan o £1 yn unig. Enillodd Syr Richard Rogers gystadleuaeth ryngwladol i ddylunio'r adeilad.

 

 

2001

Cafodd dyluniad diwygiedig ei gymeradwyo’n swyddogol yn gynnar yn 2001, a dechreuodd y gwaith sylfaen fynd rhagddo.

 

2002

Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol o'r prosiect adeiladu, a chyhoeddwyd gwahoddiad i dendro ar gyfer y contract dylunio ac adeiladu diwygiedig.

 

2003

Enillodd consortiwm Taylor Woodrow y contract i ddylunio ac adeiladu'r Senedd, a dechreuwyd gweithio ar sylfeini'r adeilad.

 

2004

Dechreuodd y flwyddyn gyda gwaith ar y slab plenwm a'r waliau ategol; erbyn diwedd y flwyddyn codwyd y to trawiadol ac roedd adeilad y Senedd yn magu ffurf.

 

2005

Gosodwyd ffenestri mawr y Senedd, a pharhawyd â'r gwaith tirlunio ar yr ardal gyfagos. Dechreuodd y gwaith gosod ar gyfer yr offer TG a darlledu droi'r Senedd yn un o'r adeiladau seneddol mwyaf datblygedig yn y byd.

 

2006

Cwblhawyd y gwaith adeiladu, a chroesawodd y Senedd ei hymwelwyr cyntaf a chynnal ei dadleuon cyntaf.

 

Agor y Senedd

Agorwyd y Senedd yn swyddogol gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, ynghyd ag Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Uchelder Brenhinol Duges Cernyw ar 1 Mawrth 2006 ym mhresenoldeb Aelodau'r Cynulliad (ACau), Aelodau Seneddol a seneddwyr a cynrychiolwyr o'r Deyrnas Unedig, Ewrop a'r Gymanwlad.

Ar Fawrth 1af mae’n Ddydd Gŵyl Dewi – hwn yw’r diwrnod pan fydd pobl Cymru, gartref a thramor, yn coffáu eu nawddsant, ac felly roedd yn briodol agor cartref newydd pwrpasol y Cynulliad Cenedlaethol ar y diwrnod hwnnw.

 

 

Y Weledigaeth

Gweledigaeth y Pensaer y tu ôl i'r dyluniad oedd creu adeilad sy'n codi allan o'r Bae gan hawlio sylw pobl sy'n mynd heibio gyda tho sy’n hwylio uwch ei ben, sy’n creu lle i bobl ddod at ei gilydd.

Mae dyluniad y Senedd yn tarddu o gerflunio’r plân daearol; y bae, er mwyn ffurfio'r lleoedd gweithio a cherflunio plân y to; yr awyr, i greu'r man cyhoeddus. Mae'r caeadle materol sydd rhwng y ddau mor dryloyw â phosibl.

Wrth wraidd y dyluniad mae'r dymuniad i gynhyrchu adeilad sy'n symbol o ddemocratiaeth agored. Fe'i gynlluniwyd hefyd i wneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu cynaliadwy.

 

 

Fel rhan o'r brîff dylunio gwreiddiol, roedd nod y pensaer fel a ganlyn:

  • Creu ymdeimlad o lywodraeth agored a hygyrchedd cyhoeddus
  • Darparu amgylchedd gwaith o safon, adeilad 'addas at y diben' heb fod yn foethus
  • Darparu mynediad da ar gyfer pobl ag anableddau
  • Ymateb yn effeithiol i newid dros amser
  • Manteisio ar Dechnoleg Gwybodaeth
  • Cynrychioli gwerth am arian, nid yn unig yn y gwariant cyfalaf cychwynnol ond yn y costau ‘gydol oes’ parhaus
  • Bod yn ‘Gymydog Da’ trwy fod o fudd i'r gymuned leol a pharchu a gwella'r amgylchedd presennol yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd.

 

Cafodd yr egwyddorion canlynol eu mabwysiadu wrth ddylunio'r adeilad:

  • Mae'r dyluniad yn gwneud defnydd da o fanteision ffisegol y tir blaen ar lan y dŵr.
  • Mae natur y safle eithriadol yn gyrru ffurf yr adeilad.
  • Mae cyfosodiad adeiladau cyfagos gyda golygfeydd gwych ar draws y Bae yn cyferbynnu cyfyngiant a bod yn agored. Mae'r grymoedd hynny’n nodweddiadol o'r lleoedd trefol pennaf.
  • Mae cyfosodiad to a thir isaf yn arwain yr adeilad tuag allan i'r Bae, gan symboleiddio ei rôl fel adeilad cenedlaethol a fydd yn rhoi hunaniaeth i Gymru. Cafodd adeilad y Senedd ei ddylunio i fod mor agored a hygyrch â phosibl. 

View from the CHamber to viewing gallery

Fel y gwelwn, mae tryloywder wrth galon y Senedd.

 

Nodweddion amgylcheddol allweddol yr adeilad

Cafodd y gwaith modelu amgylcheddol ei gynnal yn ystod yr astudiaethau cyfnod cyn-adeiladu, wnaeth ddangos fod gan yr adeilad ffigurau rhagorol o ran defnyddio ynni. Mae tîm dylunio BDSP, Arup a Richard Rogers Partnership – o dan arweiniad Taylor Woodrow – o’r farn bod y dyluniad yn adlewyrchu adeilad ‘gwyrdd’ er nad yw’n peryglu cysur y rheiny sydd o’i fewn.

Mae systemau cyfnewid gwres y ddaear, awyru a golau naturiol, boeler biomas a systemau cynaeafu dŵr glaw i gyd wedi'u cynnwys yn adeilad y Senedd. Cewch ddysgu rhagor am y nodweddion hynny yn ein fideo byr isod:

 

Mae ein rhith-daith newydd sbon yn eich galluogi i grwydro’r Senedd pryd bynnag, ac o ble bynnag yr hoffech.