Rhagfyr 2003/Ionawr 2004
Hynt y Gwaith
- Mae'r stanciau wedi'u torri i lawr, ac mae'r profion integriti olaf bellach wedi'u cwblhau.
- Mae'r contractiwr sy'n gyfrifol am y ffrâm concrid wedi gwneud llawer o waith, gyda nifer sylweddol o golofnau wedi'u codi i lefel y llawr cyntaf. Mae'r waliau yn dod ymlaen yn dda, ac mae'r gwaith i adeiladu slab y llawr cyntaf uwchben y Siambr Drafod wedi cychwyn.
- Mae'r sail concrid dur ar gyfer yr Ystafelleodd Pwyllgora bellach wedi'i osod. Mae'r pileri sy'n gwahanu pob ystafell wedi'u codi ac ar hyn o bryd maent yn cael eu llenwi â choncrid dur.
- Mae'r estyllod ar gyfer y trawstiau a fydd yn rhychwantu'r colofnau, a thrawst crwn y Siambr Drafod, bellach i'w gweld.
- Mae'r gwaith ar y tir o flaen yr adeilad yn dal yn mynd yn ei flaen. Mae hynt y gwaith ar y ffrâm hefyd i'w weld, gyda chaeadau wedi'u paratoi yn barod ar gyfer arllwys rhagor o waliau a cholofnau.
- Mae'r dec ar gyfer y llawr cyntaf yn dod yn ei flaen yn dda ers dechrau mis Ionawr. Mae'r fframwaith atgyfnerthu ar gyfer y slabiau a'r trawstiau yn cael ei saernïo o flaen llaw yn barod i'w roi yn ei le yn sydyn, unwaith y bydd y dec yn barod.
Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Chwefror
- Mae gwaith bwrw slab sy'n dal tir y siambr yn parhau yn sgil bwrw slab y llawr cyntaf. Mae prif slab y llawr cyntaf bellach wedi'i gwblhau, gyda'r rhan flaen yn barod i'w arllwys.
- Cafwyd cynnydd da yn ystod y mis o ran gwaith i ffurfio seddau'r Ystafelloedd Pwyllgora ar fffurf teras. Mae'r slab i'r swyddfeydd wedi'i fwrw bellach. Mae gwaith gosod colofnau a muriau'r ail lawr wedi symud ymlaen yn dda.
- Mae gwaith maen i'r perimedr wedi'i osod i lefel bresennol y ddaear.
- Mae draeniau'r perimedrau wedi'u gosod, gan ganiatáu i'r 'twll' gael ei ôl-lenwi. Mae hyn yn rhyddhau'r gorchudd llechi i'r muriau allanol. Mae'r cysylltiadau gwasanaeth a'r mynedfeydd i Dy Crucy wel yn parhau. Mae'r sylfaen i'r byncer sglodion pren bellach yn cael ei ffurfio.
- Mae dyluniad y Llwybr Bordiau bellach wedi'i gwblhau ac mae Dean and Dyball (Is gontractiwr Arbenigol TW) wedi paratoi eu hadnoddau a dechrau ar y gwaith. I ddechrau mae hyn wedi golygu cloddio er mwyn clirio'r rhwystrau yn y fynedfa i'r doc. Mae gwaith codi Poliau wedi dechrau ar gyfer adeiledd y Llwybr Bordiau.
- Mae SH Structures wedi mynd at i weithgynhyrchu ffrâm dur to, i'w ddosbarthu ym mis Mawrth 2004. Maent wedi datblygu eu datganiad am y dull adeiladu ar gyfer y strwythur cymhleth hwn, sef codi dau fae ar y tro i sicrhau sefydlogrwydd y strwythur yn ei gyflwr dros dro.
- Mae ymweliadau â'r gwaith ar gyfer eitemau allweddol yn digwydd. Yn ystod ymweliad diweddar gwelwyd y dur a wnaed gan gynnwys y darnau sydd wedi'u bwrw.
Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Mawrth:
- Mae'r muriau allanol ar y perimedr wedi'u hôl-lenwi hyd at lefel y ddaear, yn barod ar gyfer y gwaith bloc a'r gwaith cerrig uwchben y lefel honno.
- Mae'r mannau croesi a'r mynedfeydd i Dy Crughywel wedi'u cwblhau ac mae'r ffordd wasanaethu wedi'i hôl-lenwi. Caiff y ffordd hon ei hagor fel ffordd lusgo amgen dros dro ar gyfer cam nesaf y gwaith.
- Mae'r gwaith ar y byncer sglodion pren yn parhau a dim ond y caead sydd angen ei gastio erbyn hyn.
- Mae'r gwaith ar y cyrtiau wedi parhau, gan gynnwys gosod y sylfaeni a'r mannau gwasanaethu. Mae'r rhain yn cael eu hôl-lenwi ar hyn o bryd. Mae'r colofnau a'r muriau ar yr ail lawr bron â bod wedi'u cwblhau. Mae'r gwaith o gastio slab y siambr yn parhau yn sgil bwrw slab y llawr cyntaf. Mae'r gwaith ar furiau a cholofnau ystafell y peiriannau wedi mynd rhagddo'n dda yn ystod y mis. Bydd slab y to yn dilyn yn y mis nesaf.
- Caiff craen y twr ei symud oddi ar y safle yn gynnar ym mis Ebrill gan wneud lle ar gyfer y gwaith dur. Caiff elfennau terfynol y concrid eu cwblhau drwy ddefnyddio craen symudol. Disgwylir y bydd y craeniau a fydd yn codi'r gwaith dur yn cyrraedd y safle ym mis Ebrill.
- Ar hyn o bryd, mae'r Llwybr Bordiau o gwmpas yr Harbwr Mewnol yn cael ei ymestyn o Gei'r Fôr-forwyn ar hyd Mur y Doc at bwynt yn ymyl Adeilad Atradius (yr NCM gynt). Mae'r sylfaeni wedi'u tyllu a bydd y gwaith adeiladu yn parhau dros y gwanwyn a'r bwriad yw y bydd yn barod i'w agor ym mis Gorffennaf 2004.
- Ers hynny, mae'r poliau wedi'u lleihau neu'u hymestyn hyd at lefel y ddaear ac wedi'u tirfesur yn barod ar gyfer y dur strwythurol sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Mae'r gwaith yn parhau ar y safleoedd concrid ar y ddau ben ac ar lanhau mur y doc.
- Mae'r dur strwythurol ar gyfer yr ail fae wrthi yn cael ei gynhyrchu. Disgwylir y bydd y gwaith dur yn cyrraedd y safle erbyn diwedd y mis hwn.
- I weld y darluniau diweddaraf cliciwch yma.
Y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth ydlwyd y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth ym 1993 i ardystio coedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae 40 miliwn hectar o gwmpas y byd yn darparu coed a ardystiwyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth. Dywedodd Mr Gavin Franklin, Rheolwr Dylunio'r contract a 'Phencampwr Coed' TW, "Rydyn ni wedi ymrwymo i gaffael ein holl goed o ffynonellau cynaliadwy, sy'n cael eu rheoli'n dda, lle bynnag y bo'n ymarferol. Coed a ardystir gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth yw ein dewis cyntaf."
Y ffeithiau
- Mae'r diwydiant adeiladu yn defnyddio 70 y cant o'r holl bren a ddefnyddir yn y DU.
- Mae'r byd yn colli'r hyn sy'n cyfateb i 32 cae pêl-droed o goedwigoedd naturiol bob munud.
- Mae colli coedwigoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywoliaeth dros biliwn o bobl yn y byd sy'n datblygu, sy'n byw mewn tlodi eithafol.
- Mae Banc y Byd yn amcangyfrif bod torri a thrin coed yn anghyfreithlon yn costio rhwng £6 a £10 biliwn bob blwyddyn i lywodraethau gwledydd sy'n darparu coed.
- Ym Mrasil, Bolifia a Pheriw yn Ne America ac yn Gabon a Liberia yn Affrica, mae 80 y cant o'r gwaith torri a thrin coed yn anghyfreithlon.
- Mae dros £8 biliwn yn cael ei wario ar fewnforio pren i'r DU bob blwyddyn. Mae 10 y cant o hwn o ffynonellau anghyfreithlon.
Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Ebrill:
Adeilad Newydd y
Cynulliad - Y Diweddaraf am y Gwaith
- Mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn cyfeirio at y cyfnod hyd at ddiwedd Ebrill 2004 ac yn rhoi crynodeb byr o weithgareddau'r cyfnod cyn hynny. Y prif waith newydd y mis hwn yw dechrau gorchuddio'r waliau allanol â llechi ynghyd â gosod ffrâm dur y to.
Slabiau a Ffrâm Goncrid
- Mae'r gwaith o fwrw'r slab sy'n cynnal y llawr daear yn parhau ar ôl cael gwared â slab y llawr cyntaf. Mae'r colofnau a'r waliau i'r ail lawr bron wedi'u cwblhau. Mae waliau a cholofnau ystafell y peiriannau wedi'u cwblhau. Mae llawer o'r slabiau to wedi'u gosod yn ystod y mis.
- Mae rhan gyntaf slab yr ail lawr i'r ardal ganolog wedi'i bwrw ac mae'r gwaith o baratoi'r gweddill bron wedi'i gwblhau. Mae'r craen tyrog wedi'i symud erbyn hyn gan adael yr ardal yn rhydd ar gyfer y gwaith dur.
Gwaith daear.
- Mae'r cysylltiadau gwasanaeth a'r mynedfeydd i Dy Crucywel wedi'u cwblhau a'r ffordd wasanaeth ar agor eto. Bydd y ffordd hon yn ffordd halio amgen dros dro ar gyfer y cam nesaf yn y gwaith. Mae gwaith wedi'i wneud ar y cwrtiau gan gynnwys sylfeini a gwasanaethau. Mae'r rhain yn cael eu hôl-lenwi erbyn hyn. Mae'r byncer ar gyfer storio'r sglodion pren yng nghefn y safle yn mynd yn ei flaen, a dim ond y clawr sydd ar ôl i'w fwrw.
- Mae waliau allanol y perimedr wedi'u hôl-lenwi'n barod i orchuddio'r waliau allanol â llechi uwchben y ddaear. Mae hyn yn cael ei wneud gan CB Watson, y seiri maen o'r Barri.
Dechrau Gosod Ffrâm Dur y To
- Mae'r 421t o ddur i ffurfio'r to wedi dechrau cyrraedd a'i ffurfio ar y ddaear cyn ei osod. Mae union 21,090 o folltiau mewn 2088 o gysylltiadau o fewn y to, fel y gwelwch isod.
Gwaith y Llwybr Bordiau
- Mae Dean and Dyball wedi gosod y poliau dur i gynnal y llwybr bordiau. Mae'r poliau hyn wedi'u tocio neu eu hymestyn yn y cyfamser i'r lefel iawn ac maent wedi'u harolygu'n barod i'r dur strwythurol gynnal y prif ddec sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae'r gwaith yn parhau gyda'r sylfeini concrid i ben draw'r llwybr bordio ac mae wal y doc yn cael ei glanhau. Mae Taylor Woodrow mewn cysylltiad parhaus â CADW a'r Awdurdod Harbwr i sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn dderbyniol i bawb.
Y wybodaeth ddiweddaraf Mai 2004
- Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma'n ymwneud â'r cyfnod hyd ddiwedd Mai 2004 ac yn rhoi crynodeb byr o'r gweithgareddau yn ystod y cyfnod blaenorol.
- Mae'r gweithiwr daear wedi dychwelyd i'r safle i gwblhau gwaith o dan y ddaear yn y cyrtiau, a bydd ar y safle o ddechrau Gorffennaf er mwyn dechrau ar y gwaith allanol yn yr haf.
- Mae'r adeiladwaith slabiau plenwm a choncrid, gan gynnwys ystafell y peiriannau, wedi ei gwblhau.
- Mae'r holl adeiladwaith dur yr yn ei le bellach ar gyfer y Llwybr Pren a bydd y pren yn cael ei gyflenwi a'i osod yn ei le yn ystod wythnosau cyntaf Mehefin.
- Codwyd y gwaith dur ar gyfer y ddau fae cyntaf. Mae'r gwaith o godi'r trydydd bae yn dod yn ei flaen yn dda a bydd yn cael ei orffen cyn bo hir.
- Mae gwaith dur ategol yn mynd yn ei flaen gyda phontydd, grisiau a gwaith dur slabiau plenwm.
- Mae'r gwaith o godi waliau llechi yn mynd yn ei flaen ar bob ochr o'r adeilad.
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf ar gyfer Mehefin
- Mae'r gwaith dur ar gyfer y 5 bae cyntaf wedi'i godi. Mae'r gwaith o godi Bae 6 yn mynd rhagddo a bydd wedi'i godi y mis hwn. Bydd gwaith yn cael ei wneud ar do Baeau 1 - 4.
- Mae gwaith dur ategol yn mynd yn ei flaen gyda phontydd, grisiau a gwaith dur slabiau plenwm.
- Mae'r gwaith o godi waliau llechi yn mynd yn ei flaen ar bob ochr o'r adeilad.
- Mae llawr pren a chanllawiau'r Rhodfa bron â'u cwblhau. Bydd y Rhodfa'n cael ei hagor i'r cyhoedd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf.
Ffordd ar Gau
- Bydd Pierhead Street a Harbour Drive ar gau i gerbydau a cherddwyr o 19 Gorffennaf 2004. Bydd Pierhead Street ar agor i gerddwyr o ddechrau Hydref 2004, a bydd y ffordd ar agor i gerbydau o fis Mai 2005. Byddant ar gau er mwyn cwblhau'r gwaith tirweddu, y to bargodol a newid trefn y ffordd ar gyfer Adeilad Newydd y Cynulliad.
- Bydd cerddwyr yn gallu defnyddio'r rhodfa newydd o Mermaid Quay a Glanfa'r Cynulliad i Britannia Quay tra bod Harbour Drive ar gau.
Newyddion mis Gorffennaf
Ffrâm a Slabiau Concrid:
- Mae Whelan and Grant wedi cwblhau'r gwaith ar y ffrâm concrid cyfnerth a bellach mae criw bach yn gweithio i gorffeniad concrid i'r rhannau sydd yn y golwg er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon ofynnol.
Gwaith daear:
- Dychwelodd Churngold i'r safle ym mis Mehefin i gwblhau'r gwaith tanddaear i'r cyrtiau, ac yna dechreuodd y gwaith y tu allan ym mis Gorffennaf. Ar yr un pryd, estynnwyd y safle i gynnwys Harbour Drive a Pierhead Street.
Gwaith ar y Rhodfa:
- Cwblhawyd y Rhodfa gan Dean and Dyball ar gyfer yr agoriad swyddogol gan y Gweinidog Cyllid, Sue Essex a'r Llywydd, yr Arglwydd Elis-Thomas. Cafwyd tywydd braf ac roedd pedair ysgol yno ynghyd â thorf fawr, a dyma'r bobl gyntaf i ddefnyddio'r rhodfa orffenedig. Cwblhawyd y gwaith hwn cyn cau'r ffordd i gerddwyr uwchlaw'r rhodfa ac fe'i trosglwyddwyd union flwyddyn ar ôl llofnodi'r contract rhwng Taylor Woodrow a'r Cynulliad.
Cwblhau'r gwaith dur ar y to:
- Mae gwaith dur y to bellach wedi'i gwblhau. Mae'r profion ar lwytho'r ffrâm wedi'u cwblhau. Mae'r llun yn dangos y rig codi a ddefnyddir i dynhau'r rhodenni cyswllt 76mm. Caiff y jaciau eu tynhau at lefel benodedig ac yna caiff y nyten edau ar y bar ei thynhau a'r jaciau eu tynnu ymaith. Mae rhagor o luniau o'r gwaith dur ar waelod y ddogfen. Bydd y criw codi dur nawr yn cychwyn ar y ffrâm ddur ar gyfer y gwydr. Mae Lakesmere, sy'n gweithio uwchlaw'r gwaith dur wedi ei ddal â rhwyd, yn bwrw ymlaen â'r gwaith dur eilaidd a'r dalennau metel ar y to wedi'i inswleiddio.
Gwasanaethau:
- Mae MJN ar fin cwblhau'r gwasanaethau i'r gwagleoedd gwasanaeth dan y llawr, ac mae'r gwaith profi wedi cych wyn cyn gosod slab y llawr daear. Mae gwaith lefel uchel wedi cychwyn hefyd ar y llawr daear a'r llawr cyntaf.
Gwaith llechi:
- Mae'r waliau llechi'n cael eu codi ar bob llawr ac mae'r cerrig copa 95kg yn cael eu gosod. Bu'n rhaid gosod y rhain yn fecanyddol gan ddefnyddio dyfais sugno i godi a gos od y cerrig. Mae blocwaith yn mynd rhagddo ar y prif ystafell beiriannau a hefyd ar y gwahanfuriau.
Amrywiol:
- Cymaint oedd y diddor deb yn Agoriad y Rhodfa fel bod Newyddion wedi ffilmio darn i'w ddarlledu gyda'r Llywydd.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf - Awst 2004
- Mae'r gwaith ar y safle'n mynd yn ei flaen yn dda. Ailgychwynnodd y gwaith allanol ar y ddaear ar ôl cael mynediad i Harbour Drive a Pierhead Street. Mae'r llenwad ysgafn ym mlaen yr adeilad yn barod ac mae gwaith helaeth wedi'i wneud i nodi'r gwasanaethau presennol a chael gwared ar unrhyw gyflenwadau diangen.
- Mae Whelan a Grant yn parhau i weithio ar eu gorffeniad concrid.
- Mae'r gwaith dur ategol yn parhau, i gyd-fynd â gweddill y gwaith. Y prif ddatblygiad y mis hwn oedd codi Grwp Lifftiau 3 a Grisiau B.
- Mae MJN Colston yn parhau â'r gwaith ar y gwagle o dan y llawr. Maent hefyd yn parhau i wneud gwaith lefel uchel ar y llawr daear a'r llawr cyntaf. Gosodwyd y tanc dwr.
- Mae'r muriau llechi ar y pen gogleddol a'r pen dwyreiniol bron â'u gorffen ac mae'r gwaith ar y pen deheuol ac amryw rannau eraill yn mynd rhagddo'n dda.
- Mae'r muriau gwaith bloc bron â'u cwblhau ym mhob rhan o'r adeilad.
- Mae'r gwaith dur ar y to wedi'i gwblhau a'i densiynu. Yn ystod y mis, mae Lakesmere wedi cyflawni llawer - mae'r dec isaf bron â'i gwblhau ac mae'r gwaith ar y gwteri a'r gwaith dur ategol yn mynd rhagddo'n dda. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y gorchudd uchaf yn cael ei osod ar y rhannau cyntaf o'r to, fel ei fod yn gwrthsefyll pob tywydd. Mae system ddraenio dros dro wrthi'n cael ei gosod ar y to, oherwydd ni fyddai'r system symffonig yn gweithio ar ffurf dros dro. Codwyd y lantern i ben uchaf y cwfl yn y to.
- Bydd y gwaith paratoi ar gyfer torri drwodd i Dy Crughywel a chodi'r Pontydd Cysylltu yn cychwyn diwedd y mis.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf - Medi 2004
- Mae'r gwaith o godi'r Pontydd Cysylltu wedi dechrau.
- Mae'r gwaith daear i Harbour Drive yn parhau a'r gwaith ar y sylfaen concrid yn mynd rhagddo.
- Mae Whelan a Grant yn parhau i weithio ar eu gorffeniad concrid.
- Mae'r gwaith dur bron â'i orffen a'r gwaith ar y deciau pren yn mynd rhagddo'n dda.
- Mae'r gwaith dur ategol yn parhau, i gyd-fynd â gweddill y gwaith. Y peth nesaf i gael sylw fydd y gwaith ar ôl i'w wneud i'r pant o dan yr Ystafelloedd Pwyllgorau a'r Siambr Drafod.
- Mae MJN Colston yn parhau i wneud cynnydd da â'r gwaith ar y gwagle o dan y llawr. Maent hefyd yn parhau i wneud gwaith lefel uchel ar y llawr daear a'r llawr cyntaf. Mae gwaith bellach wedi dechrau ar ochr isaf y to ac yn ystafelloedd y peiriannau.
- Mae'r holl furiau llechi tu allan yr adeilad bron â'u gorffen. Mae'r seiri maen yn parhau i weithio mewn amryw rannau eraill ac yn gwneud y gwaith tefynol iddynt.
- Mae'r gwaith bloc mewnol bron â'i gwblhau, gan gynnwys insiwleiddio a diogelu yn erbyn tân.
- Mae'r gwaith islaw slabiau'r llawr daear bron â'i orffen cyn gosod y deciau.
- Mae'r gwaith dur ar y ffasâd wedi'i godi, ac mae S H Structures sy'n g
weithio i Haran yn cwblhau'r
leinin, y lefelu a'r sodro. Bydd sgaffaldiau yn awr yn cael eu codi ar gyfer y gwydr, y bondo pren plethedig a'r ffasgia.