Hanes Adeilad y Senedd - Agoriad Swyddogol

Cyhoeddwyd 30/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2020   |   Amser darllen munud

Agorwyd y Senedd yn swyddogol gan Ei Mawrhydi Y Frenhines, yng nghwmni Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw ar Ddydd Gwyl Ddewi 2006. Yr oedd Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol a seneddwyr a chynrychiolwyr o'r Deyrnas Unedig, Ewrop a'r Gymanwlad hefyd yn bresennol. Rhestr o'r rhai a oedd yn bresennol.

Roedd yn briodol agor cartref pwrpasol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddydd Gwyl Ddewi pan fo Cymry ym mhob rhan o'r byd yn dathlu diwrnod eu nawddsant. Y digwyddiad hwn oedd uchafbwynt prosiect a gychwynnwyd rai blynyddoedd ynghynt.

Dechreuwyd y dathliadau gyda thair gorymdaith:

  • Cynrychiolwyr Cyngor Aml-ffydd Cymru;
  • Aelodau'r Farnwriaeth;
  • Llefarwyr a Llywyddion o Seneddau a Chynulliadau Ewrop a'r Gymanwlad.

Tu allan i'r Senedd

    

Ar ôl cyrraedd y Senedd, cyflwynwyd Y Frenhines ac aelodau eraill Y Teulu Brenhinol i'r Llywydd, y Gwir Anrh yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas CG AC, ac i Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh Rhodri Morgan CG AC. Ymunodd y Llywydd a'r Prif Weinidog â'r prif westeion ar risiau'r Senedd ar gyfer Cyfarchiad Brenhinol y Gwarchodlu Cymreig a Chatrawd Frenhinol Cymru.

Yna perfformiwyd ‘God Save the Queen’ gan Fandiau Adrannol Tywysog Cymru (Lucknow a Clive). Perfformiwyd Cyfarchiad 21 Ergyd gan HMS Westminster a oedd wedi'i hangori gerllaw'r Senedd yng Nghei Britannia, a Chatrawd 39 y Magnelwyr Brenhinol a Chatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol (Gwirfoddolwyr) a oedd ar lan y dwr ger yr Eglwys Norwyaidd.

Cafwyd cyfarchiad o'r awyr gan bedair awyren Hawk o Sgwadron 208 y Llu Awyr Brenhinol, y Fali, Ynys Môn, a wnaeth hedfan dros y Senedd.Cyn mynd i'r Senedd cyflwynwyd arweinwyr y gwrthbleidiau, Mr Ieuan Wyn Jones AC, Mr Nicholas Bourne AC a Mr Michael German AC, Ysgrifennydd Parhaol y Cynulliad, Syr Jon Shortridge, a Chlerc y Cynulliad, Mr Paul Silk, i’w Mawrhydi Y Frenhines ac aelodau eraill Y Teulu Brenhinol.

Yn y Neuadd

 

Ymhlith y gwesteion yn y Neuadd yr oedd:

  • cynrychiolwyr etholedig o 22 awdurdod lleol Cymru;
  • pobl ifanc o wahanol rannau o Gymru a ddewiswyd gan eu Hawdurdodau Addysg Lleol;
  • staff a gyfrannodd at brosiect y Senedd;
  • cynrychiolwyr cymunedau ffydd Cymru.

Gwahoddwyd Ei Mawrhydi i ddadorchuddio'r plac coffaol ac i ddatgan bod y Senedd ar agor. Mae'r plac a naddwyd gan Mr Ieuan Rees i'w weld tu ôl i ddesg y dderbynfa yn y Neuadd.

Ar ôl i’r Frenhines ddatgan bod yr adeilad ar agor yn swyddogol, perfformiwyd y Ffanffer Dathliad ac Emyn, a gyfansoddwyd gan y Dr Richard Elfyn Jones ar gyfer yr achlysur, gan Fand Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweiniad Mr James Watson. Yna adroddodd Ms Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol Cymru, ei cherdd ‘Horizon with People’. Comisiynwyd y gerdd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe'i cyfansoddwyd gan Ms Lewis yn arbennig ar gyfer yr achlysur hwn.

Cyflwynwyd copi o'r gerdd i’r Frenhines mewn ffolder lledr gan Wasg Gregynog. Ysgrifennwyd y gerdd mewn caligraffi gan Mrs Hilary Hopgood. Symudodd yr Orymdaith Frenhinol o'r Neuadd i'r Cwrt ac i'r Siambr.

Yn y Siambr

  

Roedd Aelodau'r Cynulliad eisoes yn eu seddi yn y Siambr a chododd yr Aelodau ar eu traed wrth i’w Mawrhydi Y Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw ddod i'r Siambr, yng nghwmni'r Llywydd, Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Lywydd. Croesawodd y Llywydd, y Gwir Anrh yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas CG AC, Y Frenhines a'r gwesteion eraill i'r Senedd ac estynnodd wahoddiad i’w Mawrhydi annerch y Cynulliad. Ar ôl anerchiad Y Frenhines, cafwyd anerchiad gan Mrs Sylvia Heal AS, Prif Ddirprwy Gadeirydd Ffyrdd a Moddau a Dirprwy Lefarydd Ty’r Cyffredin, ar ran y Gwir Anrh Michael J Martin AS, Llefarydd Ty'r Cyffredin, a oedd yn methu â bod yn bresennol. Daw Mrs Heal yn wreiddiol o'r Gogledd a bu iddi gyfarch y Cynulliad Cenedlaethol gydag ychydig eiriau yn Gymraeg.

Cyflwynodd Senedd De Cymru Newydd Fyrllysg i'r Cynulliad Cenedlaethol fel arwydd o'r cysylltiad hanesyddol rhwng y dalaith honno a Chymru. Cafodd y Byrllysg ei gludo i'r Siambr gan Ms Ronda Miller, Rhingyll dan Arfau Cynulliad Deddfwriaethol De Cymru Newydd, ac fe'i cyflwynwyd i’w Mawrhydi Y Frenhines. Derbyniwyd y Byrllysg ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan y Dirprwy Glerc, Ms Dianne Bevan. Ar ôl cyflwyno'r Byrllysg, cafwyd anerchiadau gan:

  • Y Gwir Anrh John Price, AS, Dirprwy Lefarydd Cynulliad Deddfwriaethol De Cymru Newydd;
  • Y Gwir Anrh Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru;
  • Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas CG AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynodd y Llywydd y darn aur £5 cyntaf a wnaed gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i’w Mawrhydi Y Frenhines. Fe'i gwnaed i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 80 oed ac fe'i dosbarthwyd yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.

Yn yr Oriel

   

Roedd timau cynllunio ac adeiladu'r Senedd, staff y Cynulliad Cenedlaethol sy’n gweithio yn y Senedd, ynghyd â chynrychiolwyr pobl ifanc a phobl hyn Cymru, wedi ymgynnull yn yr Oriel a chawsant eu cyflwyno i'r Teulu Brenhinol. Bu'r Gweinidog Cyllid, Sue Essex, a fu'n gyfrifol am gamau olaf prosiect y Senedd, a Richard Wilson, rheolwr prosiect y Cynulliad Cenedlaethol, yn egluro datblygiad y prosiect wrth Y Frenhines.

Cyflwynodd ddau berson ifanc flodau i’r Frenhines a Duges Cernyw cyn iddynt adael yr Oriel a cherdded i lawr y grisiau llechi i'r Neuadd. Llofnodwyd llyfr gan Aelodau'r Teulu Brenhinol i nodi eu hymweliad â'r Senedd. Perfformiwyd 'Hen Wlad fy Nhadau', 150 o flynyddoedd ar ôl cyfansoddi'r anthem genedlaethol, gan Fand Pres Symffonig Cenedlaethol Ieuenctid Cymru cyn i'r Prif Westeion adael y Senedd ac ymuno ag Aelodau'r Cynulliad ac eraill i gael cinio yng Ngwesty a Sba Dewi Sant.

Paratowyd y cinio gan Mr George Fuchs, Cogydd Gweithredol Gwesty Dewi Sant. Lluniodd y fwydlen gyda chymorth Mr Graham Tinsley MBE, Rheolwr Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru. Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yw Noddwr y Tîm.

Yn y prynhawn, estynnwyd gwahoddiad i'r cyhoedd ddod i'r Senedd lle yr oedd adloniant yn cael ei ddarparu gan:

  • Touch Trust
  • Hijinx
  • Academi
  • Diversions
  • Ty Cerdd
  • Urdd

Gyda'r hwyr, aeth Aelodau'r Cynulliad a'u gwesteion i weld perfformiad o 'The Flying Dutchman' gan Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bryn Terfel oedd yn chwarae'r brif ran. Cyn y perfformiad, cafwyd derbyniad yng nghwmni Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw yn y Senedd. Bu'r Tywysog yn annerch y gwesteion a darparwyd adloniant gan Jemima Phillips, Telynores Tywysog Cymru. Ar ôl yr opera, dychwelodd y gwesteion i'r Senedd i gael swper i gloi dathliadau'r diwrnod.