Hanes y Pierhead

Cyhoeddwyd 13/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddariad Coronafeirws:

Yn anffodus, mae’r Pierhead ar gau i’r cyhoedd oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Cadwch lygad ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf.



Wrth ddŵr a thân

Agorodd adeilad y Pierhead ym 1897 fel pencadlys Cwmni Rheilffordd Caerdydd, ar ôl i swyddfeydd gwreiddiol Cwmni Doc Bute losgi i’r llawr ym 1892.

Cynlluniwyd yr adeilad cywrain gan y pensaer Cymreig, William Frame, a hynny ar steil yr Adfywiad Gothig ac
adeiladwyd gan William Thomas and Co fel swyddfa weinyddol porthladdoedd De Cymru.

Mae dociau Caerdydd wedi newid yn arw dros y ganrif ddiwethaf, ond mae’r Pierhead wedi sefyll yn ganolog i’r ardal hynod hon. Yma y bu’r Docfeistr yn goruchwylio’i borthladdoedd, yma y bu’r peirianyddion yn creu eu
cynlluniau, ac yma y câi cyfrifon y dociau eu cofnodi.

Yn yr ystafelloedd prysur hyn, bu dyfrddarlunwyr, syrfewyr, clercod a theipyddion yn gweithio ysgwydd wrth
ysgwydd er mwyn cynnal a chadw’r dociau a fu unwaith gyda’r mwyaf ffyniannus y byd.

 

Briciau coch

Brics terracotta gan J C Edwards o Riwabon a ddefnyddiwyd i adeiladu’r Pierhead.

O gerdded o amgylch maestrefi canol Caerdydd, ni fydd brics coch a theils porth sgleiniog J C Edwards fyth yn rhy bell i ffwrdd! Adeiladwyd Ysgol Parc y Rhath ym 1894, a honno wedi’i chynllunio gan E M Corbett – un o benseiri Fictoraidd mwyaf ffasiynol Caerdydd ar y pryd.

Byddai Corbett yn aml yn defnyddio brics a theils Rhiwabon i godi’i adeiladau, ac mae rhannau o’r ysgol yn edrych yn debyg iawn i’r Pierhead.

 

Y Neuadd Fawr

Yn y Neuadd Fawr – a fyddai wedi cael ei rhannu’n nifer o swyddfeydd llai – y câi cyfrifon y dociau eu cofnodi.

Pan ddechreuodd yr allforion glo leihau, ac wrth i’r dociau gael eu hailgynllunio, daeth y rhan fwyaf o’r
ystafell yn gartref i’r dylunwyr, gyda’u byrddau llunio mawr a’u cynlluniau a baentid â llaw. Mae’r sêff anferth,
neu’r ‘ystafell ddiogel’, yn dal i fod yng nghefn y neuadd.

Dywedir mai yma y cafodd y siec gyntaf erioed am filiwn o bunnoedd ei chadw ar ôl iddi gael ei llofnodi yn y
Gyfnewidfa Lo gerllaw.

Yn ôl y sôn, mae gan y sêff bellach ysbryd yn gwmni – hen gyfrifydd yn y dociau, efallai, yn dal i geisio rhoi trefn ar ei ffortiwn.

 

Parlwr y Pierhead

I fyny’r grisiau, mae swyddfeydd ysblennydd Rheolwr Cyffredinol y Dociau a’i gynorthwyydd.

Cawsant eu dylunio mewn arddull crand iawn; mae paneli pren collen Ffrengig a gwaith plastro addurnedig
ar y nenfwd ac, yn ganolbwynt i’r cyfan, mae lle tân teracota â chanopi. Mae pysgod, parotiaid ac adar bach
wedi’u cerfio ar y lle tân hwn; roedd William Frame a’r Arglwydd Bute yn hoff o gynnwys manylion cywrain fel
hyn yn eu dyluniadau. Byddai’r lle tân yn cymryd ei le’n iawn yng Nghastell Caerdydd!

Heddiw, mae’r tair ystafell ym Mharlwr y Pierhead yn deyrnged i hanes Cymru.

Yno, mae casgliad o arteffactau i’w gweld ac mae’r rhain yn nodi cerrig milltir yn hanes Cymru ac yn deyrnged i arwyr Cymru; y rhai sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at hunaniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol Cymru.

 

Big Ben Cymru

Cafodd wynebau cloc y Pierhead eu cynllunio gan William Frame, pensaer yr adeilad.

Adeiladwyd y mecanwaith gwreiddiol gan William Potts & Sons o Leeds, gydag Edmund Beckett Denison, cynlluniwr mecanwaith Big Ben, yn goruchwylio’r gwaith.

Byddai modd gweld y cloc gyda’r dydd a’r nos. Roedd golau nwy y tu ôl i’r wynebau a fyddai’n cynnau’n awtomatig gyda’r nos.

Ffeithiau cloc:

  • mae’r cloc yn pwyso tua 1,000 pwys
  • diamedr y wynebau yw 6’6’’
  • pwysau oedd yn gyrru’r mecanwaith, a byddai’n
    rhaid weindio’r cloc bob wythnos
  • uchder pendil yw 72”
  • mae ar y gloch y geiriau – ‘Better death than shame’