Byddwch yn barod am amser gwych yn y Senedd y gwanwyn hwn! 

Mae gennym gyfres o weithgareddau cyffrous, addas i'r teulu na fyddwch am eu colli.

Delwedd yn hysbysebu 'Hwyl y Gwanwyn yn y Senedd' yn cynnwys draig goch yn cario basged sy’n cynnwys wyau Pasg lliwgar. Mae dwy gwningen ar y naill ochr a’r llall i’r ddraig, un llwyd ac un brown, sydd hefyd yn cario basgedi o wyau Pasg. Mae'r digwyddiad yn rhedeg o 5 Ebrill i 26 Ebrill ac mae mynediad am ddim.

Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead

Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30 

Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30 

Ceir mynediad hyd at 16.00 

Noder: mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.

Mynediad am ddim

Gweithgareddau

Darlun o ddraig goch yn dal cennin Pedr melyn. Mae gan y ddraig wyneb cyfeillgar ac mae'n gwisgo band gwallt yn frith o flodau.

Adeiladwch eich draig siglo eich hun

Dyddiadau: 5 - 26 Ebrill
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim

Mae Fflam, sef draig y Senedd, am fwynhau hwyl y gwanwyn. Allwch chi greu si-so siglo i Fflam ei fwynhau? 

Dewiswch gynllun a lliwio Fflam, yna torri, plygu, a gludo eich siapiau at ei gilydd i wneud eich siglwr unigryw. 

Mae popeth yn cael eu darparu a does dim angen archebu ymlaen llaw. Felly, dewch draw a gadael i'ch creadigrwydd flodeuo!

Rhiant a phlant yn chwarae gyda blociau adeiladu ym man chwarae'r Senedd

Ardal Chwarae

Dyddiadau: Drwy gydol y flwyddyn

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Mae gan ein hardal sy'n ystyriol o deuluoedd lawer o deganau i chwarae gyda hwy a map mawr o Gymru i'w archwilio.

Tra bod y plant yn chwarae gallwch chi fwynhau paned yng nghaffi'r Senedd, sydd ond ychydig droedfeddi i ffwrdd.

Rhiant a phlentyn yn defnyddio’r llyfryn sydd â gweithgareddau i fforwyr

Llyfryn Gweithgareddau Fforwyr

Dyddiadau: Drwy gydol y flwyddyn

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Archwilio'r senedd gyda’n llyfrynnau gweithgareddau i blant 5-12 oed.

Rho gynnig ar bob gweithgaredd i gael dy sticer Crwydro’r Senedd.

Teithiau

Tywysydd yn tywys pobl ar daith o amgylch y Senedd

Teithiau Grŵp

Dyddiadau: 5 - 26 Ebrill

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Ymunwch â thaith dywys a dysgwch fwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.

Archebwch Daith o'r Senedd

Arddangosfeydd

Wal arddangos o’r enw 'Betty Campbell MBE' ac arni bortread mawr o Betty Campbell ochr yn ochr â thestun gwybodaeth.

Arddangosfa Monumental Welsh Women

Dyddiadau: Ar agor tan 7 Mai

Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Ymunwch â ni ar gyfer arddangosfa arbennig sy'n dathlu dadorchuddio pum cerflun sy'n anrhydeddu menywod arloesol o Gymru, sef – Betty Campbell, Elaine Morgan, Cranogwen, Arglwyddes Rhondda ac Elizabeth Andrews.

Gallwch ddarganfod portreadau newydd gan yr artist Meinir Mathias o Geredigion a dysgu am gyfraniadau anhygoel y menywod hyn i hanes Cymru.

Grid o bortreadau bywiog, mynegiannol sy'n darlunio unigolion amrywiol, pob un wedi'i fframio ar wahân, yn arddangos ystod o fynegiadau a dillad.

Arddangosfa Dinas Portreadau

Dyddiadau: Ar agor tan 12 Ebrill

Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Dewch i ddarganfod arddangosfa hudolus Dinas Portreadau gan yr artist Grahame Hurd-Wood

Yn 2013, penderfynodd Grahame ddechrau prosiect uchelgeisiol i beintio portread o bob un o drigolion Tyddewi, Sir Benfro.

Arluniadau celf botanegol

Arddangosfa Gelf Fotanegol

Dyddiadau: 17 Ebrill – 28 Mai 2025

Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd

£ Am ddim

Archwiliwch weithiau celf botanegol trawiadol yn y Pierhead.

Fel rhan o Ddiwrnod Celfyddyd Fotanegol Fyd-eang (BAWW) ar 18 Mai 2025, mae Cymdeithas Darlunwyr Botanegol Cymru (WSBI) yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n dathlu ein planhigion treftadaeth lleol.