Busnes Fel yr Arfer? Ailfeddwl Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/04/2023   |   Amser darllen munudau

 

Mae pandemig COVID-19 wedi gorfodi llawer o fusnesau i feddwl yn wahanol am y ffordd y maent yn gweithredu er mwyn goroesi.

Mae ein panel, sy'n cynrychioli busnesau o bob rhan o Gymru, yn trafod eu profiadau o redeg eu busnesau yn ystod y cyfnod digynsail hwn, ac yn rhoi eu barn ar yr awgrym o symud tuag at fwy o weithio o bell.

O dan gadeiryddiaeth Sarah Dickins (Gohebydd Economeg BBC Cymru) ymunwch â:

Nick Speed (Cyfarwyddwr Grŵp BT Cymru)

Jenine Gill (Cyfarwyddwr Cwmni, Meithrinfa Little Inspirations Nursery)

Shumana Palit (Cyfarwyddwr delicatessen Ultracomida a Curado Bar)

Trevor Palmer (Entrepreneur a Aelod Bwrdd Anableddau Cymru)

Sut y bydd hyn yn effeithio ar eu busnes a'r gymuned ehangach? Beth mae hyn yn ei olygu i'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael i bobl? A fydd hyn yn gwella llesiant pobl, ac a fydd yn cyfrannu at economi gryfach yng Nghymru?