Er cariad y gêm: dyfodol chwaraeon llawr gwlad ac elît yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/04/2023   |   Amser darllen munudau

 

Fel cenedl, rydym sy’n rheolaidd yn gwneud yn llawer gwell na’r disgywl mewn chwaraeon ar y llwyfan rhyngwladol. Mae ein clybiau chwaraeon yn ganolog i’n cymunedau, ac mae cymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn gorfforol egnïol yn bwysicach nawr nag erioed i'n hiechyd a'n llesiant.

O dan gadeiryddiaeth y newyddiadurwraig chwaraeon, Catrin Heledd, bydd cynrychiolwyr o gyrff chwaraeon yn ateb eich cwestiynau am ddyfodol chwaraeon llawr gwlad ac elit yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru a Undeb Rugby Cymru.