Nifer o Leisiau, Un Gendel

Cyhoeddwyd 30/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/04/2023   |   Amser darllen munudau

 

Sgwrs yng nghofal Ffotogallery gydag artisitaid llwyddiannus y prosiect.

Mae Nifer o Leisiau, Un Genedl yn arddangosfa deithiol wedi’i churadu gan Ffotogallery a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r arddangosfa, a gomisiynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhan o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol 2019 i nodi’r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru.

Mae’r prosiect wedi comisiynu chwe artist sy’n byw a gweithio yng Nghymru i ddefnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau lens i archwilio gobeithion a dyheadau ar gyfer Cymru a’i dyfodol. Nod yr arddangosfa yw cipio cyfoeth ac amrywiaeth daearyddol, diwylliant a chymdeithas Cymru, a lle bo modd, annog y cyhoedd i gymryd rhan.