Mae croeso cynnes i chi ddod i’r Senedd i eistedd yn yr Oriel Gyhoeddus a gwylio'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae'r Oriel Gyhoeddus yn lle cwbl hygyrch: mae lle ar gyfer cadeiriau olwyn, mae’r sesiwn yn cael ei darlledu’n fyw ar sgrin yn union o'ch blaen, a darperir clustffonau ar gyfer y ffrwd sain.
Y Cyfarfod Llawn yw cyfarfod o’r 60 Aelod o’r Senedd, ac fe’i cynhelir yn y Siambr ac ar-lein bob prynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.30 ac yn gorffen am 18.00, ond gall hyn amrywio weithiau.
I weld beth sy’n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, ewch i agenda'r Cyfarfod Llawn ar gyfer y diwrnod hwnnw. Bydd copïau ar gael ar y ddesg wybodaeth. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ystyriaethau cyn ymweld
- Caniatewch tua 15 munud ar gyfer mynd drwy’r broses ddiogelwch
- peidiwch â dod â llawer o eiddo gyda chi, gan fod gennym ni system ddiogelwch debyg i faes awyr ac mae’r holl ymwelwyr ac eiddo yn cael eu sganio
Ar ôl cyrraedd bydd aelod o’n tîm yn rhoi esboniad byr i chi o'r hyn i'w ddisgwyl yn yr adeilad.
Eich ymddygiad yn ystod y Cyfarfod Llawn
Rhaid sicrhau bod pob dyfais electronig, fel ffonau symudol a gliniaduron, yn ddistaw.
Mae’n bosibl y cewch eich gwahardd o'r Oriel Gyhoeddus os byddwch chi'n ymddwyn mewn modd afreolus neu aflonyddgar, neu os byddwch chi'n tarfu ar fusnes y Senedd.
Pan ddewch i’r Cyfarfod Llawn, rhaid i chi beidio â:
- bod dan ddylanwad alcohol na chyffuriau;
- peri tramgwydd i ymwelwyr eraill;
- siarad yn uchel na tharfu ar y cyfarfod mewn unrhyw ffordd;
- dod â bwyd a diodydd i'r oriel;
- defnyddio e-sigaréts yn ystod y cyfarfod;
- tynnu lluniau yn ystod y cyfarfod.
Archebu seddi
Er nad yw bob amser yn angenrheidiol, rydym yn awgrymu eich bod yn archebu sedd er mwyn gwylio busnes y Senedd cyn i chi ymweld, a hynny er mwyn osgoi unrhyw siom.
I archebu eich seddi, llenwch y ffurflen archebu a ganlyn: Archebu Seddi yn yr Oriel Gyhoeddus i wylio trafodion y Cyfarfod Llawn / Pwyllgorau.
Mae croeso bob amser i ymwelwyr ofyn i staff y dderbynfa a oes unrhyw docynnau ar gael ar y diwrnod dan sylw.
Rhaid codi tocynnau ar gyfer dechrau'r Cyfarfod Llawn o’r dderbynfa rhwng 12:30 a 13:15, a hynny er mwyn sicrhau bod pawb yn eistedd cyn i’r cyfarfod ddechrau.
Noder: os na chaiff tocynnau eu casglu erbyn yr amseroedd a nodir uchod, byddant yn cael eu hailddyrannu i'r rhai sydd ar y rhestr wrth gefn.
Os na allwch ddod ar y diwrnod mwyach, rhowch wybod i ni, a gallwn ailddyrannu eich sedd/seddi.
Gallwch hefyd wylio busnes y Senedd yn fyw ar sgriniau yn y Senedd. Fel arall, gallwch wylio darllediadau byw a darllediadau archif o drafodion y Cyfarfod Llawn a’r Pwyllgorau ar Senedd.tv.