Y Siop
O anrhegion pwrpasol i ddetholiad o lyfrau, printiau unigryw a chardiau post, mae digon o bethau arbennig i'ch atgoffa o'ch ymweliad. Cynhyrchion o Gymru ac sydd wedi'u cynhyrchu yng Nghymru.
Y Caffi
Eisteddwch yn esmwyth, ymlaciwch, a mwynhewch y golygfeydd godidog dros Fae Caerdydd wrth fwynhau paned o goffi ffres. Mae’r caffi yn gweini dewis helaeth o ddiodydd poeth, gan gynnwys te, coffi, a siocled poeth, yn ogystal ag amrywiaeth o ddiodydd oer. Mae ein bwydlen yn cynnwys brechdanau, creision, byrbrydau, ffrwythau a chacennau blasus — a danteithion Cymreig fel pice ar y maen a bara brith. Ein nod yw darparu ar gyfer yr holl anghenion dietegol lle bynnag y bo modd, gyda bwydydd Llysieuol, Figan, a Heb Glwten ar gael ar gais.
Caffi’r Senedd yw’r lleoliad cyntaf, a’r unig un, yng Nghymru i gael ei achredu â Safon Caffi Teuluol Kids in Museums.
Mae’r Safon Caffi Teuluol yn feincnod sy’n cydnabod caffis mewn amgueddfeydd ac atyniadau diwylliannol sy’n wych ar gyfer teuluoedd ac yn estyn croeso cynnes i bawb.
Mae ein caffi yn rhywle sy’n falch o groesawu bwydo ar y fron. Dylai bwydo eich babi fod yn brofiad cyfforddus i chi yn ystod eich ymweliad. Os hoffech fynd i rywle tawelach neu os oes angen unrhyw beth, gofynnwch i aelod o'r tîm.
Lle bo'n bosibl, rydym yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion deietegol. Siaradwch ag aelod o staff yn ystod eich ymweliad a fydd yn hapus i helpu, neu cysylltwch â nios oes gennych ymholiad penodol cyn eich ymweliad.