Mae ar agor i bawb a gallwch ymweld yn rhad ac am ddim.
Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae digon i'w archwilio - mwynhewch arddangosfeydd am ddim, ymunwch â thaith dywys, gwyliwch fusnes y Senedd yn fyw neu ymlaciwch yn ein caffi.
Croeso i'r Senedd
Y Senedd, cartref Senedd Cymru, yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud dros Gymru.
Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00–16:30
- Dydd Sadwrn a Gwyliau Banc: 10:30–16:30
- Mynediad olaf: 16:00