19/10/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/11/2016

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Medi 2016 i'w hateb ar 29 Medi 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Sian Gwenllian (Arfon): A wnewch chi ymhelaethu ar y datganiad a wnaethoch ar 4 Hydref yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â chanoli gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, a rhyddhau'r wybodaeth sy'n profi fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn cytuno â'ch datganiad? (WAQ71190)W

Derbyniwyd ateb ar 20 Hydref 2016

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Ar 18 Ionawr 2013, fel rhan o'i raglen newid gwasanaethau 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid', cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei benderfyniad i ganoli gwasanaethau fasgwlaidd cymhleth yn y lleoliad a ffefrir, sef Ysbyty Glan Clwyd. Y bwriad oedd hwyluso hynny drwy sefydlu gwasanaethau wrth gefn dros dro mewn dwy ganolfan rydwelïol, yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Yn unol â Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010, ar 4 Mawrth 2013, ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau ar y pryd yn nodi ei ymateb i gynigion y bwrdd iechyd.

Mae copi o'r llythyr hwn ar gael ar wefan y Cyngor Iechyd Cymuned: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/900/040313%20FINAL%20LETTER%20TO%20MINISTER%20%28Cym%20no%20signature%29.pdf

Mae'r angen i ganoli gwasanaethau fasgwlaidd llawfeddygol wedi ei restru fel un o'r cynigion a gefnogir gan y Cyngor Iechyd Cymuned, er bod ganddo rai pryderon o ran sicrhau'r hyfforddiant uwch angenrheidiol i staff meddygol a nyrsio.

Oherwydd hynny, rhoddodd y bwrdd iechyd sicrwydd y byddai'n rhoi trefniadau ar waith i sicrhau hyfforddiant priodol cynaliadwy – sef hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n bodloni'r safonau cenedlaethol – ar gyfer yr holl wasanaethau. Mae'r broses weithredu'n monitro ac yn rheoli risgiau ar gyfer pob maes gwasanaeth, a chaiff unrhyw faterion o bwys eu huwchgyfeirio at y tîm gweithredol.


 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi'r cyngor y mae wedi'i gael i gefnogi ei sylwadau ar 3 Hydref bod aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn golygu aelodaeth o'r UE? (WAQ71191)

Derbyniwyd ateb ar 20 Hydref 2016

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): Participation in the Single Market is determined through negotiation and agreement with the EU. Only EU Member States participate fully in making decisions on the legislation which governs the Single Market.