22/12/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/01/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Rhagfyr 2016 i'w hateb ar 22 Rhagfyr 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa sylwadau sydd wedi cael eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses o negodi unrhyw gytundebau masnach rydd y DU i'r dyfodol? (WAQ71730)

Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): I and my Cabinet colleagues have been consistently clear in discussions with the UK Government that the Welsh Government and other devolved governments must be fully involved in negotiating and agreeing any future UK free trade agreements. New constitutional arrangements will be needed to support collective discussions and agreements on such issues.


 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn Adolygiad o Amgueddfeydd Lleol? (WAQ71729)

Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith (Ken Skates): I will shortly be issuing a written statement about progress towards addressing the recommendations of the Expert Review of Local Museums in Wales.


 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Sian Gwenllian (Arfon): Beth yw polisi'r Gwasanaeth Iechyd o ran cynnig brechiad yn erbyn niwmonia?  (WAQ71731)W
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Iechyd y Cyhoedd (Rebecca Evans): Mae polisi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n seiliedig ar gyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sef cynnig y brechlyn niwmococol (PPV) i'r rhai sydd mewn mwy o berygl o haint niwmococol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd un brechiad yn amddiffyn person am oes. Ond bydd rhai cleifion sydd â phroblemau gyda'r ddueg neu'r arennau angen pigiad atgyfnerthu bob pum mlynedd i gynnal y lefelau cywir o wrthgyrff rhag yr haint.

Ceir rhagor o wybodaeth am frechiadau niwmococol ar wefan Galw Iechyd Cymru: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pneumococcalvaccination/


 
Sian Gwenllian (Arfon): A yw'r brechiad yn erbyn niwmonia wedi cael ei ddosbarthu i feddygfeydd ar draws Cymru eleni?  (WAQ71732)W
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Rebecca Evans: Meddygfeydd unigol sy'n gyfrifol am archebu'r brechlyn niwmococol ar gyfer oedolion yn uniongyrchol oddi wrth y gwneuthurwyr. Mae'r brechlyn niwmococol sy'n cael ei ddefnyddio yn y rhaglen i blant yn cael ei gyflenwi'n ganolog drwy'r GIG.
 
Sian Gwenllian (Arfon): A oes problemau wedi codi yn 2016 gyda dosbarthu brechlyn niwmonia i feddygfeydd ar draws Cymru? (WAQ71733)W
 
Derbyniwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2016

Rebecca Evans: Rwy'n ymwybodol o broblemau cynhyrchu diweddar a amharodd ar y cyflenwad o'r brechlyn i oedolion. Mae'r problemau hyn yn cael eu datrys, a'r cyflenwadau yn cael eu hadfer. Nid oes unrhyw broblemau gyda'r cyflenwad canolog ar gyfer y rhaglen frechu i blant.