29/11/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 23/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2016 i'w hateb ar 29 Tachwedd 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw gytundeb pontio gyda'r UE cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd? (WAQ71545)

Derbyniwyd ateb ar 23 Hydref 2017

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones:) In discussions with the UK Government and the other devolved governments we have raised the importance of considering transitional arrangements. We will continue to press this issue, in particular to ensure that businesses in Wales can benefit from continued full and unfettered access to the single market.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymysg staff y GIG ynghylch sut i ddarparu egwyddor y Cyfamod o driniaeth flaenoriaeth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghymru? (WAQ71537)

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel meddygon teulu yn penderfynu a ellir priodoli salwch neu gyflwr i wasanaeth milwrol ac felly'n gymwys i gael triniaeth flaenoriaeth o dan y GIG? (WAQ71538)

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa ddata sydd gan adran y Gweinidog am y nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cwblhau hyfforddiant neu fodiwlau e-ddysgu ynghylch gofal ar gyfer y Lluoedd Arfog? (WAQ71539)

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y caiff cyn-filwyr y Lluoedd Arfog eu cofnodi fel cyn-filwyr yn y GIG? (WAQ71540)

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'r GIG yng Nghymru yn sicrhau bod pob practis meddyg teulu yn defnyddio codau cofnodion meddygol cleifion i nodi statws cyn-filwyr? (WAQ71541)

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba mor llwyddiannus y mae'r broses o weithredu triniaeth flaenoriaeth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog wedi bod yng Nghymru? (WAQ71542)

Derbyniwyd ateb ar 6 Rhagfyr 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): I will write to you and a copy of the letter will be placed on the internet.
 
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal orthodontig yng Ngheredigion? (WAQ71544)

Derbyniwyd ateb ar 6 Rhagfyr 2016

Vaughan Gething: I will write to you and a copy of the letter will be placed on the internet.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Sian Gwenllian (Arfon): Pryd y mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi TAN20, wedi ei ddiwygio yn dilyn y newidiadau i'r ymdriniaeth o'r Gymraeg yn y drefn gynllunio yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015? (WAQ71543)W

Derbyniwyd ateb ar 2 Rhag 206 206

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): Mae’r newidiadau i TAN 20 wrthi’n cael eu cwblhau’n derfynol a bwriedir cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig ar ddechrau’r flwyddyn newydd.