14/09/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/09/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 14 Medi 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Medi 2016

Dadl Fer
 
NDM6086 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

A fydd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ddigonol i fynd i'r afael â landlordiaid diegwyddor?

'Deddf Tai (Cymru) 2014'

NDM6083 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

Yn cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

(a) archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a deddfwriaeth;

(b) cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â phwynt (a)  uchod;

(c) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;

(d) ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

NDM6085 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:

(a) diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd; a

(b) cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy:

(i) creu asiantaeth ddatblygu i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;
(ii) sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion gwyrdd; a

(iii) codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.

NDM6084 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cadw'r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru.

3. Yn cydnabod, â phryder, bod salwch sy'n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol am y ffaith bod staff gwasanaethau ambiwlansys yn absennol o'r gwaith, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy'n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff rheng flaen ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â morâl isel y staff yn ystod y Pumed Cynulliad.

NDM6087 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle gwych i Gymru roi hwb i fasnach, diwydiant a chyflogaeth.

2. Yn croesawu'r rhyddid y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei roi er mwyn llunio polisi penodol ar gyfer amaeth a physgota yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio'n agos mewn ffordd gadarnhaol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chynnwys pob plaid yn y Cynulliad yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU i elwa ar y buddiannau posibl i Gymru.

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Medi 2016

NDM6091 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Medi 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6085
 
1.         Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:

'cyd-dynnu'n rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill cyn dechrau proses erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny.'

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu is-bwynt (b)(i) a rhoi yn ei le:

'gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein hallforion;'

NDM6087
 
1.         Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

'Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru yn ystod y trafodaethau a fydd yn digwydd.'

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

'1.                    Yn nodi fod gan Gymru warged masnach â'r UE a bod cadw aelodaeth lawn o'r farchnad sengl yn hanfodol i fusnesau Cymru.

2.         Yn gresynu at yr ansicrwydd y mae'r diwydiant amaeth yn ei wynebu o ganlyniad i adael Ewrop.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r gefnogaeth i'r sector addysg uwch, yn arbennig ym meysydd ymchwil a datblygu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau trafodaethau rhwng y pedair gwlad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau y caiff buddiannau cenedlaethol Cymru eu cynnal yn ystod y broses o adael yr UE.'

NDM6084
 
1.         Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

'Yn credu bod angen i strategaeth recriwtio a chadw gynnwys ymrwymiad i godi nifer y myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio mewn ysgolion meddygol yng Nghymru.'