27/09/2017 - Cynigion a Gwelliannau â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 20/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 27 Medi 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 20 Medi 2017

Dadl Fer

NDM6515 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Dŵr ffo o'r mynydd ac ar ein ffyrdd – a all Cymru atal problem gorlifo sydyn?
 
NDM6508 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

a) yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-17 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; ac

b) yn cymeradwyo'r argymhell yn yr adroddiad. yn yr adroddiad.
 
NDM6510 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017.
 
NDM6514 David Rees (Aberafan)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei 'Ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol - beth nesaf i Gymru?' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 20 Medi 2017.
 
NDM6511 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 – Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
 
NDM6512 Elin Jones (Ceredigion)
 
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Biliau Pwyllgor' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
 
NDM6513 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i bawb'.

2. Yn gresynu at y diffyg manylion yn y ddogfen a'r diffyg targedau penodol ar gyfer y Llywodraeth o dan arweiniad Llafur yn ystod y pumed Cynulliad.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu targedau penodol a mesuradwy iddi eu cyflawni erbyn 2021 sy'n ymwneud â'r economi, y system addysg a'r gwasanaeth iechyd.

'Ffyniant i bawb – y strategaeth genedlaethol'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 22 Medi 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau a ganlyn i gynigion:

NDM6513

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

2. Yn nodi bod y strategaeth genedlaethol newydd yn ategu'r addewidion uchelgeisiol a nodwyd eisoes yn Symud Cymru Ymlaen, gan gynnwys sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd a chynyddu gwariant ar safonau ysgolion.

3. Yn cydnabod bod angen i'r llywodraeth a phob partner cyflenwi yng Nghymru weithio'n well, ac ar draws strwythurau presennol, i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl yn wyneb agenda parhaus o doriadau niweidiol gan Lywodraeth y DU.

'Symud Cymru Ymlaen'

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod Cymru, ers 1999, wedi disgyn ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant economaidd, cyflogau ac incwm y cartref o'i gymharu â'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
 
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at oedi parhaus Llywodraeth Cymru yn y broses o gyhoeddi ei strategaeth economaidd a'i methiant i ymgynghori â'r gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill ar ei chynnwys.