Biliau Arfaethedig Aelodau - Y Pedwerydd Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/04/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munud

Mae Bil Aelod yn Fil a gyflwynir gan Aelod Cynulliad unigol. Mae Biliau Aelodau yn wahanol i Filiau (a gaiff eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru), Biliau Pwyllgor (a gaiff eu cyflwyno gan bwyllgorau) a Biliau’r Comisiwn (a gaiff eu cyflwyno gan Gomisiwn y Cynulliad).

Rhaid i unrhyw Aelod sydd am gynnig Bil wneud cais i gael ei gynnwys mewn balot a gaiff ei gynnal gan y Llywydd. I fod yn gymwys ar gyfer y balot, rhaid i Aelodau hefyd gyflwyno rhywfaint o wybodaeth cyn y balot, gan gynnwys teitl arfaethedig y Bil a’i amcanion polisi.

Caiff Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig wedyn, sy’n gofyn i’r Cynulliad gytuno iddo gyflwyno Bil, i roi grym i’r cynnig sydd wedi’i gynnwys yn y balot. Os cytunir ar y cynnig hwnnw, bydd gan yr Aelod naw mis i gyflwyno Bil yn ffurfiol.

Unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno, mae Bil Aelod yn ddarostyngedig i’r un broses graffu â Biliau eraill.

Canllawiau i Broses Biliau Aelodau (PDF 1206KB)

Balotau Deddfwriaethol

O bryd i’w gilydd, rhaid i’r Llywydd gynnal Balot i benderfynu ar enw Aelod heblaw Aelod o’r Llywodraeth a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod.

Aelodau a ddewiswyd