Mynd i dudalen Busnes y Senedd chevron_right
Mynd i dudalen Sut rydym yn gweithio chevron_right
Crwydro’r adran Ymweld â ni chevron_right
Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange, mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd ym Mhorth Teigr a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.
Mae Cymru: Cartref Oddi Cartref yn dwyn ynghyd straeon a gasglwyd o blith y cymunedau amrywiol sydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd. Dyddiadau: 24 Mai – 12 Gorffennaf 2025.
Nod prosiect ffotograffiaeth Wanderlust yw cipio diwylliant cyfoethog a bywiog y gymuned Sipsiwn a Theithwyr trwy lens y camera. Dyddiadau: 3 Mehefin - 28 Awst 2025.
Byddwch yn barod am amser gwych yn y Senedd y gwanwyn hwn! Mae gennym gyfres o weithgareddau cyffrous, addas i'r teulu na fyddwch am eu colli. 5 - 26 Ebrill 2025. Mynediad am ddim.
Mae nifer o deithiau a sgyrsiau ar gael yn y Senedd, sy’n cyfoethogi’r profiad o ymweld â’r sefydliad ac yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy amdano.
Llwyfan ar gyfer rhagoriaeth gydag amrywiaeth o gynhyrchion sy’n dod o Gymru ac sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru.
Dysgwch am arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau a digwyddiadau sy’n digwydd yn y Senedd a'r Pierhead.
Waeth ble ydych yn y byd, dewch i mewn i weld y Senedd ar daith rithwir.
Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn gyfle i weld yr enghreifftiau gorau o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Maent yn amrywio o bartneriaethau â’n prif sefydliadau cenedlaethol i brosiectau a gaiff eu datblygu ar y cyd â chymunedau Cymru.