Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd
Lansiwyd yr Adolygiad sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd ym mis Gorffennaf 2025 i adolygu diwylliant, ffyrdd o weithio a chyfleusterau'r Senedd. Gwnaed y penderfyniad hwn mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
Mae'r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi ar 3 Mawrth 2026, yn asesu i ba raddau y mae’r Senedd yn gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd, gan fesur y sefydliad yn erbyn safonau rhyngwladol ar gyfer Seneddau sy'n sensitif i rywedd ac archwilio pa mor effeithiol ydyw o ran cefnogi cynrychiolaeth, cyfranogiad a diwylliant cyfartal. Mae'r adroddiad hefyd yn defnyddio record gadarn Cymru o ran gweithdrefnau sy'n gyfeillgar i deuluoedd, a diwygiadau diweddar fel gweithio hybrid a threfniadau estynedig ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy. Mae'r gwaith ymchwil yn gwerthuso i ba raddau y mae'r Senedd yn ymgorffori cydraddoldeb yn ei swyddogaethau deddfu a chraffu, yn nodi bylchau strwythurol – gan gynnwys cyfyngiadau ar ddata demograffig – ac yn gwneud argymhellion ar gyfer cryfhau rôl y Senedd fel sefydliad democrataidd sy’n gwbl gynrychioliadol a chynhwysol.
Mae'r gwaith yn cael ei oruchwylio gan fwrdd trawsbleidiol, gyda’r Aelodau a ganlyn:
- Joyce Watson AS, Cadeirydd, Llafur Cymru;
- Peter Fox AS, y Ceidwadwyr Cymreig;
- Jane Dodds AS, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru;
- Siân Gwenllian AS, Plaid Cymru; a hefyd
- Mike Hedges AS, Llafur Cymru.
Gwnaeth Dr Alison Parken OBE, Dr Rachel Minto a Dr Leah Hibbs, o Brifysgol Caerdydd, gasglu a dadansoddi ystod o dystiolaeth, gan gynnwys dogfennau, cyfweliadau ac ymatebion i arolygon, er mwyn llunio adroddiad ac argymhellion.
Mae'r adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Gomisiwn y Senedd i'w drafod, a’r bwriad yw y bydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol.
Cylch gwaith yr Adolygiad
Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried y materion a ganlyn ac i gyflwyno adroddiad arnynt i Gomisiwn y Senedd erbyn diwedd 2025:
- i ba raddau y mae'r Senedd ar hyn o bryd, yn enwedig yn y broses o wneud penderfyniadau seneddol:
i. yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu cydraddoldeb o ran rhywedd fel amcan cymdeithasol, amcan economaidd ac amcan gwleidyddol;
ii. yn mynd ati i gefnogi cynrychiolaeth a chyfranogiad cynhwysol, ac yn cydnabod sut mae rhywedd yn croestorri â nodweddion eraill i lywio mynediad, cyfranogiad a phŵer; ac
iii. yn ailgyfeirio ac yn trawsnewid ei diwylliant, ei phrosesau, ei harferion a'i hallbynnau sefydliadol tuag at gyflawni’r amcanion hyn;
- gan nodi lle y mae angen rhagor o gynnydd i wella sensitifrwydd a chynhwysiant rhywedd ar draws pob agwedd ar waith seneddol, yn enwedig wrth wneud penderfyniadau seneddol, gan ddarparu argymhellion amserol a gweithredadwy i Gomisiwn a Phwyllgor Busnes y Seithfed Senedd.
Tystiolaeth a gafodd ei hystyried
Fel rhan o’r adolygiad, rhoddwyd ystyriaeth i ystod o ddata meintiol ac ansoddol, gan gynnwys gwaith dadansoddi ar y canlynol:
- tueddiadau o ran presenoldeb, safle a chyfranogiad Aelodau;
- trefniadaeth gwaith seneddol, gan gynnwys polisïau, rheolau, gweithdrefnau a chyfleusterau, ond hefyd o ran diwylliant a normau; a hefyd
- sut y mae rhywedd yn cael ei ystyried yn y broses ddeddfu ac mewn gwaith craffu.
Os oes gyda chi gwestiynau am yr adolygiad a gwaith y bwrdd, gofynnwn ichi gysylltu â Gspaudit@senedd.cymru