Cofnod Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Rheol Sefydlog 3 yn nodi bod angen ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gadw a chyhoeddi cofnod o’r Aelodau hynny sydd, ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, berson y mae’r Aelod hwnnw’n gwybod ei fod yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall.

Mae’r gofyniad bod yn rhaid hysbysu o dan y Rheol Sefydlog hon yn ychwanegol at unrhyw ofyniad bod rhaid i gyflogaeth partner neu blentyn dibynnol Aelod gael ei chofrestru o dan Rheol Sefydlog 3.

O dan Rheol Sefydlog 31A, mae’n ofynnol i Aelodau roi hysbysiad cyn pen wyth wythnos ar ôl y dyddiad y bydd yn tyngu llw neu rhoi cadarnhad, neu cyn pen pedair wythnos ar ôl; y tro cyntaf i aelod o deulu gael taliad gyda chymorth arian y Comisiwn; y dyddiad y daw’r cyflogai yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall; neu’r dyddiad y daw’r Aelod yn ymwybodol am y tro cyntaf o’r ffaith bod y cyflogai yn aelod o deulu’r Aelod hwnnw neu’n aelod o deulu Aelod arall.

Yr Aelod yn unig sy’n gyfrifol am roi unrhyw hysbysiad a dylid gwneud hynny yn unol â’r

Fodd bynnag, gall Aelodau ofyn am gyngor gan y Swyddfa Gyflwyno.  Rhaid gwneud yr hysbysiadau drwy lenwi’r ffurflen

Archwilio’r Cofnod

Cedwir copi o gofnod Cyflogaeth Aelodau’r Teulu yn y Swyddfa Gyflwyno. Mae’n agored i’r cyhoedd ei archwilio yn y Swyddfa Gyflwyno ei hun yn ystod ei horiau agor. Gellir trefnu bod copïau o fanylion unigol ar gael ar gais.

Yn ogystal, gellir gweld copi o’r adroddiad isod neu mae copi caled ar gael o’r Swyddfa Gyflwyno.

Archif