Cynnig 005 - Natasha Asghar AS

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Natasha Asghar AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Dileu Gwastraff mewn Meddyginiaeth y GIG (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Amcanion polisi y Bil yw:

  1. Newid y rheolau ynghylch defnyddio meddyginiaeth nas defnyddiwyd fel y gellir eu hailddosbarthu er mwyn osgoi gwastraffu ac arbed costau; a
  2. Sicrhau bod yr holl ddarparwyr a gwasanaethau gofal iechyd yn cydweithio i rannu gwybodaeth a chofnodion cleifion er mwyn sicrhau gwell cydgysylltu rhwng meddygon, fferyllwyr a darparwyr gofal iechyd gan osgoi gwastraffu meddyginiaeth.