Cynnig 010 - Joyce Watson AS

Cyhoeddwyd 21/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Joyce Watson AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Carbon Glas (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Prif nod y Bil fyddai datblygu, gweithredu ac ariannu Cynllun Adfer Carbon Glas cenedlaethol i Gymru. Byddai'r Bil a'r cynllun adfer yn:

  1. Sefydlu Fforwm Carbon Glas Cymru. At ddibenion ariannu gwaith ymchwil a datblygu cyfredol yn ymwneud â charbon glas yng Nghymru a dwyn y gwaith hwnnw ynghyd.
  2. Sicrhau y cynhelir archwiliad o stociau carbon glas Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r bylchau presennol yn y sylfaen dystiolaeth o ran stociau carbon glas Cymru.
  3. Creu 'parthau diogelu carbon glas' yng Nghymru. At ddibenion darparu gwarchodaeth ychwanegol mewn ardaloedd sy’n bwysig ar gyfer storio carbon glas, neu ardaloedd o’r môr neu’r arfordir lle caiff llawer iawn o CO2 ei ddal a’i storio yng Nghymru (fel cynefinoedd mwdlyd, riffiau biogenig, morwellt a morfa heli).
  4. Sicrhau buddsoddiad a chymhelliannau ar gyfer pysgodfeydd 'sy’n glyfar o ran yr hinsawdd' yng Nghymru. At ddibenion lleihau'r pwysau a roddir ar storfeydd carbon glas gan offer pysgota gweithredol drwy gymell y defnydd o offer pysgota isel ei effaith a goddefol.
  5. Diogelu’r carbon glas sydd eisoes i’w gael mewn ardaloedd morol gwarchodedig. At ddibenion gwahardd rhai gweithgareddau sydd â'r potensial i achosi niwed sylweddol i gynefinoedd carbon glas (fel angori ac offer pysgota sy’n cael ei lusgo ar hyd gwely’r môr).
  6. Mabwysiadu camau i ddatgarboneiddio fflyd bysgota Cymru drwy:
    1. creu rhaglen i gyflwyno cychod a llongau ynni effeithlon newydd sy’n defnyddio mathau amgen o danwydd i gymryd lle’r rhai hŷn; a
    2. dileu unrhyw gymorthdaliadau tanwydd niweidiol sy’n bodoli ar hyn o bryd.
  7. Buddsoddi mewn strategaethau adfer carbon pysgod, gyda'r nod o gefnogi’r canlynol:
    1. cymell a hyrwyddo cynhyrchion pysgod a dyframaeth carbon isel, cynaliadwy yng Nghymru;
    2. lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi bwyd môr; ac
    3. hyrwyddo cynhyrchu dyframaeth sy’n glyfar o ran yr hinsawdd.

Gwybodaeth ategol

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ysgogiad deddfwriaethol i ddiogelu ardaloedd o'r môr a'r arfordir yn benodol ar gyfer dal a storio carbon deuocsid yng Nghymru.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050 gyda system o dargedau allyriadau a chyllidebau carbon dros dro. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i darged i leihau allyriadau i sero net erbyn 2050.

Mae ardal forol Cymru yn mesur tua 32,000 km², sef 35 y cant yn fwy na chyfanswm tir Cymru. Mewn adroddiad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru (Gorffennaf 2020), nodwyd bod o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon eisoes yn cael ei storio mewn cynefinoedd morol yng Nghymru, sy’n cyfateb i werth bron 10 mlynedd o allyriadau carbon Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli dros 170 y cant o'r carbon a ddelir yng nghoedwigoedd Cymru.

Mae'r môr yn chwarae rhan flaenllaw yn y cylch carbon byd-eang ac mae'n gyfrifol am amsugno 25 i 30 y cant o’r CO2 anthropogenig a ryddheir i'r atmosffer. Fodd bynnag, mae ecosystemau’r môr yn wynebu bygythiad difrifol oherwydd y ffordd rydym yn defnyddio’r môr ac yn sgil newid hinsawdd. Mewn astudiaeth ddiweddar (Luisetti et al. 2019), awgrymwyd y gallai'r DU niweidio hyd at werth 12 biliwn doler yr UD o storfeydd carbon gwaddodion ysgafell y môr dros y 25 mlynedd nesaf, os nad awn i'r afael â chamreolaeth ein moroedd.

Mae gan y môr, a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio, rôl bwysig i'w chwarae wrth i ni geisio lliniaru chwalfa’r hinsawdd drwy ddarparu ffynonellau protein carbon isel; rhoi 'carbon glas' dan glo ac adfer 'carbon pysgod'; drwy ddarparu ffynonellau ynni adnewyddadwy; a thrwy ddatgarboneiddio diwydiannau’r môr – ond rhaid i ni newid y ffordd rydym yn defnyddio'r môr i sicrhau ei fod yn ddigon gwydn i'n helpu i liniaru newid hinsawdd. Dyna pam rydym yn galw am ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru i fynd i'r afael â'r bwlch deddfwriaethol o ran diogelu a rheoli'r asedau morol ac arfordirol gwerthfawr hyn.