Cynnig 012 - Luke Fletcher AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munud

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Luke Fletcher AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Anifeiliaid Anwes mewn Tai (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Mae sawl her yn gysylltiedig â chadw anifeiliaid anwes mewn tai gwarchod, tai cymdeithasol neu dai rhent preifat. Gall datblygu Polisi Anifeiliaid Anwes sy’n cael ei orfodi’n effeithiol sicrhau y gall mwy o denantiaid gadw anifeiliaid anwes, a gwneud hynny'n gyfrifol.

Gall hyn hefyd helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid, a hwyluso tenantiaid hapusach, iachach, a pherthynas well rhwng perchnogion anifeiliaid anwes a phobl nad ydynt yn berchen ar anifeiliaid anwes.

Byddai'r Bil hwn yn cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu cosbi o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo. Byddai hyn yn cynnwys newid i drefn gyfreithiol arferol lle byddai’n rhaid caniatáu anifail anwes yn y sector tai cymdeithasol a thai rhent preifat - oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau i beidio â gwneud hynny.

Byddai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod yn rhaid i'w hadolygiadau a'u strategaethau digartrefedd statudol ystyried sut i roi mynediad i anifeiliaid anwes - yn enwedig cŵn - mewn lochesau, hostelau a lletyau eraill i bobl ddigartref.