Cynnig 014 - Laura Anne Jones AS

Cyhoeddwyd 21/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Laura Anne Jones AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil fyddai cynyddu nifer y cynorthwywyr cymorth cyntaf iechyd meddwl ledled Cymru.

Byddai'r Bil hefyd yn anelu at:

  • Sicrhau bod cymorth cyntaf iechyd meddwl yn rhan orfodol (yn ôl y gyfraith) o bob cwrs cymorth cyntaf cydnabyddedig;
  • Cynorthwyo a chefnogi busnesau yng Nghymru i gael gweithiwr hyfforddedig cymorth cyntaf iechyd meddwl dynodedig;
  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion i weithio gydag awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, grwpiau crefyddol a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at gynorthwywyr cymorth cyntaf iechyd meddwl, a hyfforddiant;
  • Sicrhau ei bod yn ofynnol i bob ysgol gael cenhadon cymorth cyntaf iechyd meddwl ymhlith y staff a'r garfan ddisgyblion;
  • Ymgorffori hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i’w wneud yn rhan o hyfforddiant athrawon a staff ysgol.