Cynnig 019 - Huw Irranca-Davies AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munud

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Huw Irranca-Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Economi Gydweithredol a Pherchnogaeth Gweithwyr (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Bydd y Bil yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i:

  1. Hybu twf yr economi gydweithredol yng Nghymru, gyda'r nod o’i dyblu o ran maint erbyn 2026;
  2. Hybu perchnogaeth gweithwyr o fusnesau a cheisiadau gweithwyr i brynu’r cwmni sy’n eu cyflogi;
  3. Darparu, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ar reoli cymorthdaliadau, gymorth ariannol a chyngor i weithwyr brynu rhan neu’r cyfan o fusnes sy'n wynebu cau neu fynd yn llai o ran maint;
  4. Rhoi cyngor i weithwyr ar sefydlu cydweithfeydd gweithwyr;
  5. Hybu mabwysiadu perchnogaeth gweithwyr ymysg busnesau yng Nghymru sy'n cael cyllid cyhoeddus neu sy'n cael eu cyflogi i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.