Cynnig 021 - Sioned Williams AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Sioned Williams AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Defnyddio Budd-daliadau (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig ac awdurdodau lleol.

Gwybodaeth ategol

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i deuluoedd Cymru gyflwyno sawl cais i sawl corff sector cyhoeddus i gael yr holl gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddi. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi datblygu dulliau arloesol ar gyfer pasbortio teuluoedd sy'n cael un budd-dal i nifer o fudd-daliadau eraill, ond nid yw'r dull hwn yn gyffredin ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith i hybu arfer gorau ond nid yw’n mynnu bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu yn y fath fodd. Byddai gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i hybu defnyddio budd-daliadau i'r eithaf yn newid y sefyllfa hon a gallai sicrhau bod mwy o arian yn mynd i bocedi teuluoedd.

Byddai’r polisi hwn yn un cymharol rad i'w weithredu ac felly fe allai gael cefnogaeth drawsbleidiol, ond byddai hefyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau miloedd o deuluoedd ledled Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi galw am i hyn ddigwydd fel cam cyntaf tuag at greu System Budd-daliadau Gymreig ac mae’n barod i roi cefnogaeth wrth i’r syniad gael ei ddatblygu.