Cynnig 023 - Rhun ap Iorwerth AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Rhun ap Iorwerth AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Asesiad Budd Cymunedol

Amcanion Polisi y Bil:

I fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni mawr yn gorfod profi budd cymunedol datblygiadau ynni adnewyddol trwy orfod cyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio. (Tebyg i orfod cael Asesiad Effaith Amgylcheddol)