Cynnig 024 - Andrw RT Davies AS

Cyhoeddwyd 21/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Andrew RT Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Troseddau Trapiau Glud (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Byddai'r Bil hwn yn cynnig gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio trapiau glud yng Nghymru, gan roi diwedd ar y trawma y gall y trapiau hyn ei achosi i anifeiliaid yng Nghymru.

Gwybodaeth ategol

Mae trapiau glud – a elwir hefyd yn fyrddau glud neu’n fyrddau gludiog – yn dal anifeiliaid ar ddalen o gardbord, plastig neu bren sydd â haen o lud nad yw'n sychu arno, neu mewn padell fas o lud. Yn anffodus, wrth geisio rhyddhau eu hunain o’r glud, gall anifeiliaid rwygo darnau o ffwr, torri esgyrn neu hyd yn oed gnoi drwy eu coesau eu hunain i ddianc. Gall anifeiliaid sy'n cael eu dal yn y trapiau fod yno am gyfnodau hir, gan arwain at boen, straen a dioddefaint difrifol. Heb oruchwyliaeth, gall anifeiliaid farw'n araf o ddadhydradedd, newyn neu flinder. Mae trapiau glud yn dal anifeiliaid yn ddiwahân, gan gynnwys adar gwyllt a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn aml.

Yn Lloegr, cyflwynwyd Bil Aelod Preifat, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, gan Jane Stevenson AS, sy'n golygu bod perygl i Gymru fod ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr o ran defnyddio'r trapiau erchyll hyn.