Cynnig 027 - Janet Finch-Saunders AS

Cyhoeddwyd 07/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2023   |   Amser darllen munud

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Janet Finch-Saunders AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Cynllunion Morol (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil hwn fyddai:

  1. Gwneud darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai’n helpu i arwain y broses o leoli datblygiadau i ffwrdd o’r ardaloedd mwyaf sensitif yn ecolegol, lleihau’r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau sy’n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr, a rhoi mwy o rôl i’r amgylchedd morol wrth gyflawni sero net erbyn 2050;
  2. Creu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu:
    • cynllun datblygu morol cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith yn ystod tymor pob Senedd;
    • meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol;
    • strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr, a’i hadolygu o leiaf unwaith yn ystod tymor pob Senedd.
    • Cynllun Adfer Carbon Glas Cenedlaethol, ac i’w adolygu o leiaf unwaith yn ystod tymor pob Senedd.
  3. Creu dyletswydd ar ffermydd gwynt ar y môr i gynnwys:
    • adfer cynefin gwely'r môr;
    • strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol.