Cynnig 038 - Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Mark Drakeford AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Achosion Gofal (Cynnwys Rhieni) (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Pwrpas y Bil hwn yw darparu amddiffyniad ym maes lles plant, pan fo penderfyniadau hanfodol sy'n newid bywydau yn cael eu gwneud. O ran pob cyfarfod a gynhelir gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cynnwys rhiant/rhieni plentyn y mae’r Adran yn ystyried ei symud i ofal cyhoeddus, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gofnodi ar ffurf recordiad sain.

Gwybodaeth ategol:

Mae Cymru yn parhau i symud plant i ofal cyhoeddus ar raddfa gynyddol, ac ar raddfa sy'n llawer uwch nag awdurdodau yn Lloegr. Mae rhieni yn aml yn credu nad yw'r broses gwneud penderfyniadau yn rhoi digon o gyfle i'w lleisiau gael eu clywed. Mae’r hyn a ddywedir mewn cyfarfodydd sy’n cynnwys rhieni yn ddeunydd pwysig iawn a ddarperir i'r Llysoedd fel tystiolaeth pan fo Adran yn cynnig derbyn plentyn i ofal. Ar hyn o bryd, yr unig gofnod o gyfarfodydd o'r fath yw'r un a ddarperir gan yr awdurdod ei hun. Gall rhieni wrthwynebu’r cofnod hwn, ac maent yn gwneud hynny, ond nid oes modd iddynt gyfeirio at fersiwn annibynnol o’r hyn a ddigwyddodd. Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (1984) eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r heddlu recordio pob cyfweliad â phobl o dan amheuaeth. Y canlyniad yw cofnod gair am air y gellir cyfeirio ato yn y Llys. Mae’r ffaith bod cofnod o'r fath ar gael yn diogelu’r rhai o dan amheuaeth a swyddogion yr heddlu pan fo anghydfodau.