Cynnig 043 - Natasha Asghar AS

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Natasha Asghar AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Ffyrdd (Dirymu’r Terfyn 20 mya) (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

  1. Dirymu Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 Llywodraeth Cymru.
  2. Gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd, cymunedau ac awdurdodau lleol ledled Cymru i fabwysiadu yn hytrach ddull wedi’i dargedu o ran mesurau gostwng cyflymder.
  3. Buddsoddi mewn ymgyrchoedd wedi’u targedu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, megis mynd i’r afael ag yfed a gyrru, defnyddio ffonau symudol wrth yrru, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, a lansio ymgyrchoedd o’r fath.