Sam Rowlands AS

Sam Rowlands AS

Datblygu'r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Cyhoeddwyd 13/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/04/2024   |   Amser darllen munud

  • Enillydd y balot: Sam Rowlands AS, Cynnig 029, Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

Prif Gerrig Milltir Manylion
Dyddiad y balot 13 Gorffennaf 2022
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol

Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 17 Awst 2022

Papur Ystadegol, Hydref 2022

Y Cyfarfod Llawn, 26 Hydref 2022

Caniatâd i frwrw ati - Ie

Ymgynghoriad

Ar 31 Ionawr 2023, lansiodd Sam Rowlands AS ymgynghoriad ar ei gynnig am Fil Addysg Awyr Agored (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mawrth 2023.

Mae Sam Rowlands hefyd wedi lansio ymgynghoriad i blant a phobl ifanc ar y Bil. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd plant a phobl ifanc i ymgysylltu’n uniongyrchol ar y Bil a rhoi eu barn ar yr hyn y gallai’r gyfraith newydd ei wneud. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Mehefin 2023.

Bil Addysg Awyr Agored Preswyl (Cymru) Drafft

Gan adeiladu ar yr amcanion polisi a'r ymgynghoriad cynharach, mae Sam Rowlands wedi datblygu Bil Addysg Awyr Agored Preswyl (Cymru) drafft (PDF, 92kb). Cyhoeddwyd y Bil drafft hwn, a chynhaliwyd ymgynghoriad penodol ar fanylion y Bil Drafft gyda rhanddeiliaid allweddol rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2023.

Gwybodaeth am daith ddeddfwriaethol y Bil ar ôl ei Gyflwyno

Craffu Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Cynhaliwyd dadl ar yr egwyddorion cyffredinol ar 17 Ebrill 2024. Gwrthodwyd y cynnig i dderbyn yr egwyddorion cyffredinol a gwrthodwyd y Bil gan y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.14.

Enw gwreiddiol y Bil hwn oedd y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru).
Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol a gynhaliwyd i lywio datblygiad y Bil, newidiodd Sam Rowlands ei deitl i’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru).