- Enillydd y balot: James Evans AS, Cynnig 016, Bil Iechyd Meddwl (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot |
18 Hydref 2023 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol |
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2023 |
Caniatâd i frwrw ati |
Y Cyfarfod Llawn, 13 Rhagfyr 2023 |
Ymgynghoriad |
Ar 2 Chwefror 2024, lansiodd James Evans AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru), yn gwahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi’r gyfraith arfaethedig. |
Datganiad gan James Evans: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig |
Ar 27 Tachwedd 2024, gwnaeth James Evans ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) arfaethedig. Yn ystod y Datganiad hwnnw, cadarnhaodd yr Aelod ei fod yn tynnu'r cynnig Bil yn ôl o broses y Bil Aelod. |
Teitl gwreiddiol y Bil oedd y Bil Iechyd Meddwl (Cymru).
Cyn cyflwyno Memorandwm Esboniadol i'r cynnig, newidiodd James Evans y teitl i’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).