Diogelwch dŵr - Deiseb y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd 13/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2023   |   Amser darllen munud

Deiseb i wella diogelwch dŵr ac atal boddi.

“Fe foddodd Mark Allen, oedd yn 18 oed, ar ôl neidio i mewn i gronfa rewllyd ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2018… Rydym ni eisiau achub bywydau ac arbed pobl rhag gorfod dioddef y torcalon a'r trasiedi o golli rhywun y maen nhw’n garu yn boddi.” —Leeanne Bartley, Deisebydd

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Yr heriau a'r camau gweithredu sydd eu hangen o ran cynyddu diogelwch dŵr ac atal boddi.
  • Effaith ddinistriol rasiedïau boddi ar deuluoedd.

Beth ddigwyddodd?

  • Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddiogelwch Dŵr Cymru, cwmnïau cyfleustodau dŵr, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA), a Chyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cafodd y ddeiseb ei thrafod yn y Senedd a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol.
  • Derbyniodd Llywodraeth Cymru bum argymhelliad, gan gynnwys penodi Gweinidog penodol i arwain ar ddiogelwch dŵr ac atal achosion o foddi, a datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch dŵr.

 


Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Gwahardd rasio milgwn

Rhieni sydd wedi bod mewn gofal

Gofal iechyd endometriosis

Gofal canser y fron metastatig