Gofal canser y fron metastatig - Deiseb y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd 13/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2023   |   Amser darllen munudau

Deiseb i wella gwasanaethau i gleifion canser y fron metastatig.

“Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu hesgeuluso’n ddybryd gan y system.  Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth.” - Tassia Haines, Deisebydd.

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Diffyg nyrsys arbenigol ar gyfer y rhai sydd â chanser y fron metastatig, sy’n gadael cleifion heb ddigon o gefnogaeth.
  • Diffyg data ar y rhai sy'n byw â chanser y fron metastatic ac sy’n cael eu trin ar ei gyfer.

Beth ddigwyddodd?

  • Cafwyd dadl angerddol ac o’r galon yn y Senedd.
  • Ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i archwilio gofal sylfaenol a gofal eilaidd canser y fron.
  • Cyflwyno system gwybodaeth canser newydd i ganiatáu defnydd gwell fel mater o drefn o ddata sy'n ymwneud â chanser metastatig.
  • Bydd Rhwydwaith Canser Cymru yn dechrau gweithio ar gyfres o lwybrau canser metastatig y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, gan ddechrau gyda chanser y fron metastatig.
  • Mae'r deisebydd, Tassia Haines, yn parhau i ymgyrchu dros nyrs arbenigol a gwell ansawdd gofal.

 


Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Gwahardd rasio milgwn

Rhieni sydd wedi bod mewn gofal

Gofal iechyd endometriosis

Diogelwch dŵr