Gwahardd rasio milgwn – Deiseb y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd 13/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2023   |   Amser darllen munud

Deiseb i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

“Mae rasio milgwn yn greulon yn ei hanfod, a phrin yw’r warchodaeth gyfreithiol sydd gan filgwn. Mae eisoes wedi'i wahardd ym 41 o daleithiau UDA.” - Hope Rescue, Deisebydd.

Roedd y ddeiseb yn codi ymwybyddiaeth o’r materion a ganlyn:

  • Mae gan Gymru un trac rasio milgwn annibynnol, ac mae cynlluniau ar waith iddo ddod yn drac Milgwn Bwrdd Prydain Fawr, a fyddai’n golygu cynnydd yn nifer y rasys a gynhelir bob wythnos.
  • Ers 2018, mae Hope Rescue a’i bartneriaid achub wedi derbyn bron 200 o filgwn dros, ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau.

Beth ddigwyddodd?

  • Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan elusennau lles milgwn a chan rai sy’n ymwneud â rasio milgwn ar hyn o bryd. Roedd lles milgwn yn ganolog i ystyriaethau'r Pwyllgor.
  • Cafodd y ddeiseb ei thrafod yn y Senedd.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ofyn i'r cyhoedd a ddylai rasio milgwn gael ei wahardd.

 


Gweld yr holl enwebiadau ar gyfer Deiseb y Flwyddyn 2023

Rhieni sydd wedi bod mewn gofal

Gofal iendometriosisechyd 

Gofal canser y fron metastatig

Diogelwch dŵr