Helpwch i ddatblygu canllawiau adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd

Cyhoeddwyd 11/08/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2026   |   Amser darllen munud

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am glywed eich barn ar ganllawiau newydd a fydd yn helpu i lunio sut mae system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd yn gweithio'n ymarferol. 

Pa fathau o ymddygiad ddylai arwain at Aelod o'r Senedd yn colli ei sedd? 

Mae'r Senedd yn cyflwyno proses o'r enw adalw. Mae adalw yn caniatáu i bleidleiswyr benderfynu a ddylai Aelod o’r Senedd aros yn ei swydd os yw wedi cyflawni camymddwyn difrifol. 

Cyn y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell y dylai Aelod wynebu adalw, rhaid iddo ddatblygu canllawiau sy’n nodi’r hyn y byddai’n ei ystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw. 

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael eich barn cyn drafftio'r canllawiau hynny.  

Hoffai glywed: 

  • Pa fathau o ymddygiad ddylai fod yn ddigon difrifol i ystyried adalw? 
  • Pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwnnw? 
  • Sut y gall y broses fod yn deg, yn dryloyw, ac yn hawdd ei deall.

 

P'un a oes gennych ddiddordeb proffesiynol mewn safonau ac atebolrwydd, neu os ydych yn syml, eisiau rhannu eich barn fel aelod o'r cyhoedd, mae'r Pwyllgor am glywed oddi wrthych.

 

Rhannwch eich barn