Aelodaeth a chyfarfodydd

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/08/2023   |   Amser darllen munud

Caiff pwyllgorau eu creu yn dilyn etholiad y Senedd.

Nid oes nifer benodol o bwyllgorau. Mae rheolau'r Senedd yn dweud y dylai fod digon o bwyllgorau i ymdrin â phob un o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Mae’r gyfraith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gael pwyllgor sy’n gyfrifol am waith archwilio.

 

Aelodaeth

Bydd pob grŵp gwleidyddol yn penderfynu pwy o blith ei aelodau fydd yn ei gynrychioli ar bob pwyllgor. Caiff y mater ei gytuno wedyn gan y Senedd gyfan. Mae nifer yr aelodau sydd gan grŵp gwleidyddol ar bwyllgor yn dibynnu ar nifer y seddi sydd gan y grŵp yn y Senedd.

Mae gwaith aelodau Pwyllgorau’n cynnwys:

  • cydweithio i gytuno ar raglen waith y Pwyllgor
  • gwneud gwaith ar faterion o’u dewis neu y gofynnir iddynt edrych arnynt
  • cyfrannu at adroddiadau a gwaith arall
  • cytuno ar argymhellion i'r Llywodraeth a sefydliadau eraill

 

Cadeiryddion Pwyllgorau

Mae pob Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan Aelod o’r Senedd.

Fel arfer, mae cadeiryddion pwyllgorau yn cael eu hethol gan y Senedd gyfan. Mae nifer y cadeiryddion sydd gan grŵp gwleidyddol yn dibynnu ar nifer y seddi sydd gan y grŵp yn y Senedd.

Mae cadeirydd Pwyllgor yn gyfrifol am arwain gwaith y Pwyllgor, a chadeirio cyfarfodydd.

 

Cyfarfodydd

Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’n cyfarfod bob wythnos neu bob pythefnos pan fydd y Senedd yn eistedd.

Gallwch weld pryd mae pwyllgorau'r Senedd yn cyfarfod ar ein calendr.

Yn gyffredinol, bydd Pwyllgorau’n cyfarfod ar ystâd y Senedd ym Mae Caerdydd, ond gallant hefyd benderfynu cynnal cyfarfodydd mewn rhannau eraill o Gymru.

P'un ai ar ystâd y Senedd neu rywle arall, gall pwyllgor ddewis cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb, cyfarfod rhithwir, neu gymysgedd o'r ddau (a elwir yn "gyfarfod hybrid").

Mae fformat y cyfarfodydd yn cael ei benderfynu gan Bwyllgor unigol. Mae'r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau fel:

  • dewisiadau'r Cadeirydd a'r Aelodau
  • argaeledd aelodau'r pwyllgor
  • lleoliad ac anghenion tystion
  • y busnes sy'n cael ei ystyried

Mae Pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod yn gyhoeddus a gellir gwylio’r trafodion ar Senedd TV.

 

 

Gweld holl Bwyllgorau'r Senedd

 

 


 

Archwilio’r pwnc

Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd

Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor

Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau

Cymryd rhan mewn pwyllgorau

Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd