Y Senedd sy’n gyfrifol am nifer fach o benodiadau cyhoeddus.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Penodiadau'r goron, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dim ond person a enwebir gan y Senedd a'u cymeradwyo gan y Brenin a all lenwi'r rolau hyn.
- Penodiadau’r Senedd, fel y Comisiynydd Safonau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae'r broses benodi yn wahanol yn ôl y rôl sy'n cael ei llenwi ond bydd fel arfer yn cynnwys gwaith gan bwyllgor.
Weithiau bydd pwyllgor yn gyfrifol am gynnal y broses recriwtio ac yna’n cynghori'r Senedd ar ba ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y penodiad a/neu enwebiad.
Cyn i'r mater gael ei ystyried gan y Senedd gyfan, gall gwrandawiad cyn penodi neu cyn-enwebu ddigwydd gyda phwyllgor hefyd.
Gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru
Ers 2019, mae Pwyllgorau hefyd yn cael eu gwahodd i gynnal gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer rhai o’r penodiadau cyhoeddus proffil uchel y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud, sef penodiadau sy’n cael effaith sylweddol ar y cyhoedd.
Er enghraifft, Comisiynydd Plant Cymru neu Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Caiff gwrandawiadau eu cynnal ar ôl i banel recriwtio ddewis ymgeisydd a ffafrir, ond cyn i'r penodiad gael ei wneud.
Er nad yw casgliadau Pwyllgor yn orfodol, mae’r gwrandawiadau’n rhoi cyfle i’r Senedd:
- craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru
- cymeradwyo penodiad
- codi pryderon am benodiad cyn i’r ymgeisydd a ffafrir gael ei benodi
Dysgwch ragor am benodiadau cyhoeddus
Archwilio’r pwnc
Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd
Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor
Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau
Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau
Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd