Penodiadau cyhoeddus

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2023   |   Amser darllen munudau

Y Senedd sy’n gyfrifol am nifer fach o benodiadau cyhoeddus.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Penodiadau'r goron, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dim ond person a enwebir gan y Senedd a'u cymeradwyo gan y Brenin a all lenwi'r rolau hyn.
  • Penodiadau’r Senedd, fel y Comisiynydd Safonau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r broses benodi yn wahanol yn ôl y rôl sy'n cael ei llenwi ond bydd fel arfer yn cynnwys gwaith gan bwyllgor.

Weithiau bydd pwyllgor yn gyfrifol am gynnal y broses recriwtio ac yna’n cynghori'r Senedd ar ba ymgeisydd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y penodiad a/neu enwebiad.

Cyn i'r mater gael ei ystyried gan y Senedd gyfan, gall gwrandawiad cyn penodi neu cyn-enwebu ddigwydd gyda phwyllgor hefyd.

 

Gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Ers 2019, mae Pwyllgorau hefyd yn cael eu gwahodd i gynnal gwrandawiadau cyn penodi ar gyfer rhai o’r penodiadau cyhoeddus proffil uchel y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud, sef penodiadau sy’n cael effaith sylweddol ar y cyhoedd.

Er enghraifft, Comisiynydd Plant Cymru neu Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Caiff gwrandawiadau eu cynnal ar ôl i banel recriwtio ddewis ymgeisydd a ffafrir, ond cyn i'r penodiad gael ei wneud.

Er nad yw casgliadau Pwyllgor yn orfodol, mae’r gwrandawiadau’n rhoi cyfle i’r Senedd:

  • craffu ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru
  • cymeradwyo penodiad
  • codi pryderon am benodiad cyn i’r ymgeisydd a ffafrir gael ei benodi

 

 

 

Dysgwch ragor am benodiadau cyhoeddus

 

 


 

Archwilio’r pwnc

Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd

Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor

Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau

Cymryd rhan mewn pwyllgorau

Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd