Mae Comisiwn y Senedd yn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor Senedd Cymru fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar—sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn nodi sut rydym wedi datblygu blaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.
Ochr yn ochr ag uchafbwyntiau perfformiad a chyflawniadau, mae'r adroddiad yn cynnig adolygiad o'r flwyddyn: sut y gwnaed penderfyniadau, sut y defnyddiwyd adnoddau, a sut y cawsom ein dwyn i gyfrif.
Mae'r cyfrifon—a gynhyrchwyd yn unol â chanllawiau Trysorlys EM ac a ardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru—yn rhan sylweddol o'r adroddiad.