Cydnabyddiaeth a gwobrau allanol

Cyhoeddwyd 01/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/03/2026   |   Amser darllen munudau

Mae’r cydnabyddiaethau, achrediadau ac aelodaethau sydd gennym yn adlewyrchu ein hymrwymiad diysgog i feithrin diwylliant cynhwysol ac arloesol sy'n seiliedig ar werthoedd.

Maent yn ymgorffori ein gwerthoedd craidd, sef Angerdd, Balchder a Pharch, ac yn cefnogi amcanion y Comisiwn yn ei Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant – yn benodol, i fod yn sefydliad lle mae cyfleoedd ar gael i bawb a lle gall pob aelod o staff ffynnu.

Mae pob llwyddiant ac ymrwymiad i’w briodoli i ymroddiad, amser ac ymdrech, ac rydym yn gwybod bod meithrin gweithle cynhwysol ac ymgysylltiol yn rhan hanfodol o alluogi Aelodau o'r Senedd i gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol.

Cydnabyddiaethau ac Achrediadau Allanol

Ceir isod rai o'r cydnabyddiaethau, achrediadau ac aelodaethau allanol yr ydym yn falch o'u cael fel cyflogwr, gan amlygu mentrau diwylliannol allweddol yr ydym yn eu cefnogi.

 

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd: Lefel 2

Rydym yn rhan o fudiad dros newid sy’n annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella eu ffyrdd o recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.

Un o’r 10 Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio

Rydym yn falch o gael ein cydnabod ymhlith cyflogwyr gorau'r DU sy'n hyblyg ac yn ystyriol o deuluoedd.

Gwobr Awtistiaeth Gyfeillgar y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol

Mae ennill y wobr hon yn dangos bod ein sefydliad yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o awtistiaeth, gan sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant i bawb.

 

Aelodaethau ac Ymrwymiadau

Mae ein haelodaeth o sefydliadau allanol yn agor drysau i syniadau ffres, gwybodaeth arloesol, ac arferion gorau – gan ein grymuso i arwain gydag arloesedd a gwneud effaith barhaol.

 

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Rydym yn addo i drin pawb sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog â thegwch a pharch. Mae hyn yn arwydd o’n hymrwymiad cryf i'w lles ac yn cydnabod cyfraniadau amhrisiadwy aelodau parhaol, wrth gefn a blaenorol o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.

Mae ein haddewid yn cynnwys hyrwyddo ein statws o fod yn gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog, gan gefnogi staff yng nghymuned y Lluoedd Arfog, dathlu Wythnos y Lluoedd Arfog, a chyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael.

Endometriosis UK: Cynllun Cyflogwyr sy'n Ystyriol o Endometriosis

Drwy gofrestru ar gyfer y cynllun hwn, rydym yn cadarnhau ein hymrwymiad i greu gweithle lle gall cyflogeion ac arnynt endometriosis ffynnu.

Aelod o raglen Cyflogwyr Balch Stonewall (Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall gynt)

Rydym yn aelodau o raglen Cyflogwyr Balch Stonewall, sy’n ymrwymiad i sicrhau bod Comisiwn y Senedd yn cynnal gweithle diogel a chroesawgar lle gall pobl LHDT+ a'u cyfeillion ffynnu.

Onvero (Rhwydwaith y Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant - ENEI gynt)

Mae ein haelodaeth o Onvero yn ein cefnogi ar hyd ein taith amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant (DEI), sydd yn ein helpu i integreiddio arferion gorau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhob rhan o'n gwaith, gan ddod â ni yn agosach at ein nod o greu diwylliant sefydliadol gwirioneddol gynhwysol.

 

Menopause Friendly

Mae aelodaeth o Menopause Friendly yn rhoi mynediad inni at arbenigedd ac adnoddau i gefnogi ein hymrwymiad parhaus i fod yn gyflogwr sy'n ystyriol o'r menopos a chreu mannau diogel a chefnogol ar gyfer deialog agored, gan hyrwyddo ein hymrwymiad parhaus i greu gweithle mwy cynhwysol drwy fod y sefydliad cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu canllawiau'r BSI (Sefydliad Safonau Prydeinig) ar y menopos a mislif.

Ein Taith o ran Cydnabyddiaethau, Achrediadau ac Aelodaethau Allanol.

 

 

Darllenwch ein hadroddiadau blynyddol i ddysgu mwy am ein taith o ranamrywiaeth a chynhwysiant - gan gynnwys y gwobrau, y cydnabyddiaethau, a’r aelodaethau blaenorol yr ydym wedi'u cael ar y ffordd, sy'n llunio ein hethos hyd heddiw.

Er enghraifft, y sefydliad sy'n ennill Gwobr Aur CIPD Cymru am Fenter Amrywiaeth a Chynhwysiant, a Gwobr Arian y Training Journal am y Rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau ar gyfer ein Cynllun Prentisiaethau yn 2018. Gweler ein Hadroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2018.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd: