Strwythur cyflog a chynnydd cyflog

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae ein strwythur cyflog yn cynnwys sawl band cyflog y gellir eu gweld yma < >. Mae gan bob band cyflog nifer o bwyntiau cyflog, sy’n cael eu galw’n gynyddrannau.

Yn gyffredinol, cynigir cyflog cychwynnol i chi ar waelod y band cyflog (gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth am y band tâl yn yr hysbyseb swydd a'r swydd ddisgrifiad) ac yna bydd yn codi’n flynyddol ar ddyddiad eich penodiad bob blwyddyn, yn amodol ar berfformiad boddhaol. Mae hyn yn golygu y gallwch symud i fyny'r band cyflog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich perfformiad ac, o fewn pedair blynedd, byddwch ar frig eich band cyflog.