Cydgysylltydd Swyddfa ar gyfer Anthony Slaughter AS

Cyhoeddwyd 26/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2026

Cydgysylltydd Swyddfa ar gyfer Anthony Slaughter AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-258-26

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.

  • Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd, gan gynnwys y Penderfyniad; cynllunio a chyllidebu cyllideb gwaith etholaethol, ac olrhain a rheoli gwariant.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio’n effeithiol gydag Aelodau etholedig o fewn amgylchedd gwleidyddol seneddol (Aelodau o Senedd Cymru, Aelodau o Senedd y DU, Aelodau o Senedd yr Alban neu gyfwerth).

  • Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelod o’r Senedd.

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad a gwariant) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Helen.Draper@Senedd.Wales

I wneud cais, anfonwch eich cais at Helen.Draper@Senedd.Wales erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 10 Rhagfyr 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC