Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cydgysylltydd Swyddfa ar gyfer Paul Rock AS
Cyhoeddwyd 26/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2026
Cydgysylltydd Swyddfa ar gyfer Paul Rock AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-275-26
Prif ddyletswyddau:
Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd, gan gynnwys y Penderfyniad; cynllunio a chyllidebu cyllideb gwaith etholaethol, ac olrhain a rheoli gwariant.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Profiad o weithio’n effeithiol gydag Aelodau etholedig o fewn amgylchedd gwleidyddol seneddol (Aelodau o Senedd Cymru, Aelodau o Senedd y DU, Aelodau o Senedd yr Alban neu gyfwerth).
Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelod o’r Senedd.
Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad a gwariant) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
Cymhwysterau hanfodol:
Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.