Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cydlynydd Gwaith Achos Etholaethol ar gyfer Iain McIntosh AS
Cyhoeddwyd 26/11/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2026
Cydlynydd Gwaith Achos Etholaethol ar gyfer Iain McIntosh AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol, Castell-nedd
Cyfeirnod: MBS-249-26
Prif ddyletswyddau:
Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
Dealltwriaeth o brosesau llywodraethol a seneddol.
Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan ddilyn materion cyfoes a pholisïau’r blaid.
Cymhwysterau hanfodol:
Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.