Cydlynydd Gwaith Achos Seneddol ac Etholaethol ar gyfer Rebeca Phillips AS

Cyhoeddwyd 30/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2026

Cydlynydd Gwaith Achos Seneddol ac Etholaethol ar gyfer Rebeca Phillips AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth- Ystradgynlais
Cyfeirnod: MBS-221-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion

    teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y

    materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn

    perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.

  • Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi

    etholwyr i ddatrys problemau.

  • Cefnogi gweithwyr achos iau, gan roi arweiniad ynghylch ymdrin ag achosion a gweithdrefnau gweinyddol.

  • Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd

    nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd

    (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a

    chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.

  • Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles, mewnfudo a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron

    a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.


Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Rebeca.Phillips-AS@Senedd.Cymru

I wneud cais, anfonwch eich cais at Rebeca.Phillips-AS@Senedd.Cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 06 Tachwedd 2026, 17:00

Dyddiad cyfweliad: TBC