Natasha Asghar AS

Natasha Asghar AS

Cyfle Gwaith: Arweinydd Swyddfa Ranbarthol ar gyfer Natasha Asghar AS

Cyhoeddwyd 21/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2025

 Cyfle Gwaith: Arweinydd Swyddfa Ranbarthol ar gyfer Natasha Asghar AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhoal
Lleoliad: Y Swyddfa Ranbarthol yng Nghasnewydd, yn ogystal â’r Senedd pan fo angen
Cyfeirnod: MBS-047-25

Diben y swydd: 

Rheoli a chydgysylltu'r holl wasanaethau cymorth, gan gynnwys ymchwil, gweinyddiaeth a gwaith achos, ar gyfer yr Aelod o’r Senedd. Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys arwain ac ysgogi’r tîm o staff a rheoli cyllidebau a systemau'r swyddfa.

Prif ddyletswyddau:

  1. Cwblhau gwaith achos ar ran etholwyr, tra hefyd yn cefnogi'r tîm gwaith achos ehangach.

  2. Darparu cymorth ysgrifenyddol, gwaith achos, ymchwil a gweinyddol cynhwysfawr yn ôl y galw.

  3. Cydgysylltu gweithgareddau'r swyddfa i sicrhau yr ymdrinnir ag ymholiadau ac ymwelwyr mewn modd priodol a phroffesiynol.

  4. Drafftio llythyrau ar ran yr Aelod o’r Senedd ar amrywiaeth o faterion.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymhwysterau hanfodol:

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddiaeth Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Sam.Hall@Senedd.Cymru 


Dyddiad cau: 28 Hydref 2025, 5pm
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau