Cyfle Gwaith: Cydgysylltydd Gwaith Achos Etholaethol ar gyfer Alun Cox AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith:37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa etholaethol / Hybrid Gartref
Cyfeirnod: MBS-081-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Gwaith Achos Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymdrin ag achosion mwy cymhleth, yn eiriol dros etholwyr, ac yn ymchwilio i bolisi wrth ddarparu cefnogaeth i etholwyr a'r Aelod. Bydd yn gweithio'n annibynnol ar waith achosion, yn cysylltu ag asiantaethau’r llywodraeth a chyrff perthnasol eraill yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau:
- Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion wedi’u teilwra i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
- Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
- Goruchwylio hynt achosion sydd â blaenoriaeth uchel, a sicrhau ymatebion amserol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o'r gyfraith a fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Gwybodaeth gyfreithiol a pholisi yn ymwneud â thai, lles, mewnfudo a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.